Darganfyddwch fwy yn Dolaucothi
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae’r ystâd yn fwy na 2,500 erw o faint, ac yn cynnwys ffermydd ucheldirol, coetir a safle tŷ gwreiddiol Dolaucothi a’r parc amgylchynol. Dewch am dro drwy’r ystâd a mwynhau popeth o olygfeydd mawr godidog i lwybrau hamddenol ar lan yr afon.
Dros y blynyddoedd, mae natur wedi gorchfygu’r dirwedd ddiwydiannol. Mae’r coed yn edrych fel eu bod wedi bod yma am byth, ond fel y gwyddwn, mae llawer mwy’n llechwra o dan wyneb y llethrau coediog hyn.
Mae nodweddion naturiol y safle wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae diwydiant a byd natur yn cyfuno i greu’r amodau perffaith ar gyfer cenau, mwsoglau a rhedyn prin.
Y gwanwyn hwn, dewch i fwynhau clychau’r gog yn gorchuddio’r coetiroedd a choed prydferth y Parcdir yn deffro i’w llawn lliw. Cyfrwch y gwenyn a’r peillwyr prysur eraill yn heulwen yr haf wrth i Farcutiaid Coch hedfan fry uwchben. Dewch i werthfawrogi’r arlliwiau hydrefol gyda’r olygfa odidog ar draws y Dyffryn o’r piler triongli sy’n mesur 925 troedfedd (282m), sef y pwynt uchaf ar yr ystâd. Peidiwch ag aros o dan do yn y gaeaf. Yn hytrach, gwisgwch eich welis ac ewch i archwilio’r awyr agored am fywyd gwyllt, a llwybrau cerdded i’w mwynhau.
Mae’r daith o’r gloddfa Rufeinig yn eich tywys drwy SoDdGA Allt Hebog, sy’n arwyddocaol am ei goetir derw ucheldirol, y Farchredynen Bêr brin a phresenoldeb ystlumod. Mae lleithder yr ardal yn creu amodau tebyg i goedwig law ac mae’n wledd i’r llygaid hyd yn oed ar y diwrnodau gwlypaf.
Mae’r mwyngloddiau aur a’r ystâd yn rhoi’r cyfle i chi ddod wyneb yn wyneb â bywyd gwyllt. Mae’r cloddfeydd eu hunain yn cynnwys toreth o fywyd wyllt hyd yn oed, o bryfed cop i wyfynod, o ystlumod i ffyngau diddorol prin.
Mae Pry’ Cop yr Ogof (Meta menardi) yn casáu’r golau ac yn dewis byw mewn lleoedd tywyll fel ogofau a hen fwyngloddiau. Mae twneli tanddaearol yr hen fwyngloddiau aur yn gynefinoedd delfrydol i’r pryfed cop, ond mae eu cuddliw (brown tywyll a du – yr un lliw â’r garreg glai) yn golygu eu bod nhw’n anodd eu gweld.
Ond maen nhw yna yn siŵr i chi, i fyny yn y corneli tywyll yn eistedd ar eu gweoedd crwn, hardd.
Mae nifer o rywogaethau gwahanol o ystlum yn ymweld â Dolaucothi hefyd, fel yr Ystlum Lleiaf Cyffredin, yr Ystlum Pedol Mwyaf, yr Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum y Dŵr, Ystlum Brandt, Ystlum Natterer, yr Ystlum Hirglust a’r Ystlum Barfog.
Yr Ystlum Pedol Mwyaf yw’r un mwyaf cyffredin yn y mwyngloddiau. Mae gan yr ystlum hwn gorff maint peren fach ac mae’n un o’r rhywogaethau mwyaf o ystlum yng ngwledydd Prydain.
Mae’r mwyngloddiau’n baradwys i’r ystlumod – gallant aeafgysgu yn y gaeaf a dianc i lecyn oer yn yr haf. Mae’r holl gatiau rydym wedi’u gosod yn y mwyngloddiau yn cynnwys bariau llorweddol sy’n galluogi’r ystlumod i fynd a dod yn hawdd.
Mae Dolaucothi’n haid o adar. Maen nhw i’w clywed yn y mwyngloddiau eu hunain weithiau, ond dydyn nhw ddim yn mentro’n bell iawn fel arfer.
O gwmpas yr ystâd fe welwch delor y cnau, y siglen fraith, yr aderyn du, bronfreithod ac amrywiaeth o ditwod, gan gynnwys y titw cynffon-hir, yn ogystal â’r gwenoliaid sy’n dychwelyd i nythu bob blwyddyn. Os ydych chi’n lwcus, fe allech weld y dringwr bach neu’r gwybedog brith hefyd.
Cofiwch fwrw golwg fyny fry, lle mae’r boda a’r barcud coch yn aml yn diddanu â’u campau, ac os ydych chi’n lwcus fe allech weld gwalch Marthin.
Yn cris-croesi’r ystâd a’r coetiroedd mae rhwydwaith o lwybrau cerdded. Crwydrwch y glannau neu’r llethrau a mwynhau golygfeydd gwych dros Ddyffryn Cothi tua’r gorwel.
Rydym yn rheoli’r coetiroedd i wella’u cynefinoedd. Yn Nolaucothi mae hyn yn golygu ymyrryd pan gaiff coed eu heintio, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol a chymryd rhan ym Mhrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE+ gyda’r RSPB a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Ar ddechrau 2024, dyfarnwyd Ystâd Dolaucothi â swm o arian gan y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Ariennir y prosiect hwn ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i nod yw creu a gwella coetiroedd er defnydd a mwynhad cymunedau lleol.
Diolch i brosiect TWIG, gallwn fynd i’r afael ag amserlen waith sylweddol ar draws Ystâd Dolaucothi.
Bydd y rhain yn cynnwys ymdrechion i hybu bioamrywiaeth leol, drwy osod blychau nythu Bele’r Coed a bywyd gwyllt, a rhaglen o blannu coed rhywogaethau brodorol. Yn ogystal â’r ffocws hwn ar fioamrywiaeth, bydd TWIG hefyd yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â gwella’r mynediad i Ystâd Dolaucothi. Byddwch yn gweld gwelliannau i lwybrau cerdded, cyfeirbwyntiau gwell a byrddau dehongli newydd.
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.
Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.