Darganfyddwch fwy yn Dolaucothi
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae croeso cynnes i gŵn yn Nolaucothi; o’r teithiau o’r gloddfa Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n arwain i bob twll a chornel o’r ystâd, mae ‘na leoliadau arbennig i chi a’ch ci eu darganfod.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Ddolaucothi sgôr o ddwy bawen.
Mae gan y llefydd hyn bowlenni dŵr, biniau baw ci a llwybrau cerdded sy’n wych i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i mewn i rai ardaloedd, ond nid bobman. Os oes ‘na rywle i gael bwyd a diod, byddwch chi’n gallu cael paned o de gyda’ch ci, yn yr awyr agored fwy na thebyg. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r gloddfa i’r ystâd ehangach.
Os ydych chi wedi cadw lle ymlaen llaw ar daith o’r gloddfa Rufeinig, mae croeso i chi ddod â’ch ci gyda chi. Gofynnwn i chi gadw pob ci sy’n dod ar y daith neu sy’n crwydro iard y gloddfa ar dennyn byr. Mae’r daith ei hun yn cynnwys grisiau ac yn mynd dros dir anwastad a thrwy’r coetir.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae dŵr ar gael i gŵn yn iard y gloddfa, ac mae cysgod lle gallant orffwys hefyd. Mae’r bin baw ci yn y prif faes parcio wrth i chi gyrraedd y safle, dafliad carreg o’r iard.
Mae bin baw ci ym maes parcio’r coetir os ydych chi’n bwriadu mynd am dro o gwmpas yr ystâd. Mae digon o gysgod yn ardal y maes parcio hefyd os penderfynwch chi stopio am bicnic.
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.