Llwybr Coetir Dolaucothi
Mae’r gylchdaith gymedrol hon sy’n dilyn arwyddion glas yn dringo drwy goetiroedd hyfryd Sir Gâr, lle gallech fod yn ddigon lwcus i weld bywyd gwyllt fel moch daear a chnocellod y coed. O’r mwyngloddiau aur Rhufeinig yn Nolaucothi i garreg Pumsaint a gardd furiog yr hen blas, mae’r llwybr yn gyfoeth o hanes hefyd.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403
Cam 1
Dechreuwch ym maes parcio’r Coetir (gyferbyn â maes parcio’r Mwyngloddiau Aur). Ym mhen pellaf y maes parcio, dilynwch y llwybr troed.
Cam 2
Ar ôl croesi’r bont bren, trowch i’r dde, gan gadw Afon Cothi i’r dde ohonoch.
Cam 3
Trowch i’r chwith oddi ar y trac drwy gât fach, a dilynwch wal yr hen Ardd Furiog. Croeswch y cae ac ewch drwy’r coed gan ddilyn yr arwyddion glas.
Cam 4
Croeswch yr heol goedwigaeth ac ewch i mewn i’r cae, yna ewch i fyny’r bryn tuag at y coetir.
Cam 5
Lle mae’r llwybr yn gwahanu, dilynwch y trac i’r chwith, gan fynd i fyny’r bryn ar hyd ymyl y coed.
Cam 6
Trowch i’r dde, gan fynd i fyny’r bryn. (Gallwch hefyd fynd yn syth ar hyd y ffens, gan ailymuno â’r llwybr yng Ngham 8, a ddangosir ar y llwybr isaf ar y map.)
Cam 7
Daliwch ati i ddilyn yr arwyddion glas ar hyd traciau’r coetir. Edrychwch a chlustfeiniwch am fywyd gwyllt toreithiog y coed.
Cam 8
Ewch allan o’r coed, croeswch yr heol goedwigaeth ac ewch i lawr y cae tuag at bentref Pumsaint. Gall y darn hwn fod yn fwdlyd iawn yn y gaeaf. (Yn lle hyn, gallech osgoi’r pentref a’r heol drwy droi i’r chwith i’r heol goedwigaeth a mynd yn syth ymlaen i gyrraedd Cam 6, lle gallwch aildroedio’r llwybr yn ôl i’r maes parcio.)
Cam 9
Gadewch y caeau ac ewch i faes parcio’r pentref. Yma fe welwch yr Hen Gerbyty gyda man gwybodaeth a thai bach. Ar ôl cyrraedd yr heol, trowch i’r chwith ac ymunwch yn ofalus â’r palmant ar ymyl yr heol, lle mae’n croesi’r afon. Wrth yr arwydd ffordd ar gyfer Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, mae’r llwybr yn gwahanu – ewch i’r chwith a cherddwch yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.
Taith gerdded Parcdir Dolaucothi
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.
Llwybr Ystâd Dolaucothi
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)