![Buwch yn sefyll ar ochr bryn yn edrych tua’r camera, gyda choed, bryniau a haul yn machlud yn y cefndir ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/cow-dolaucothi-estate-dolaucothi-gold-mines-carmarthenshire-1275861.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr
Ar y llwybr cymedrol hwn byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd, o fynedfeydd y gloddfa a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i adfeilion y felin brosesu a ddefnyddiwyd yn y 1930au. Mae golygfeydd gwych a pheiriannau anarferol i’w mwynhau ar hyd y daith.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Coetir Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403
Cam 1
Cerddwch allan drwy brif fynedfa maes parcio’r coetir a throwch i’r dde i’r ffordd un trac. Wrth y gyffordd, trowch i’r chwith, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Caio. Cerddwch i fyny’r rhiw nes i chi ddod at set o risiau’n arwain i lawr i’r chwith, gyda gât pum bar i’r dde ohonoch.
Cam 2
Ewch drwy’r gât pum bar a dilynwch y trac drwy’r goedwig. Byddwch yn pasio rhai o gloddfeydd hynaf Dolaucothi, a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i echdynnu aur.
Cam 3
Dilynwch y llwybr i’r Fynedfa Rufeinig Uchaf (mynedfa sgwâr i’r gloddfa, i’r dde ohonoch). Ewch heibio i fynedfa’r gloddfa, i fyny rhai grisiau, a fydd yn mynd â chi dros ben y gloddfa. Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd gât fach at ddôl.
Cam 4
Ewch drwy’r gât a cherddwch ar draws y ddôl.
Cam 5
Ar ôl cyrraedd lôn wedi’i tharmacio, croeswch hi i mewn i’r cae o’ch blaenau. Yma fe welwch sylfeini’r felin brosesu o’r 1930au. Dyma lle roedd y mwyn yn cael ei gludo i’w brosesu i echdynnu’r aur.
Cam 6
Ar waelod y cae, ewch drwy gât fechan yn ôl i’r lôn wedi’i tharmacio. Dilynwch y lôn i lawr i’r grid gwartheg ar y gwaelod. Ewch drwy’r gât wrth ochr y grid gwartheg a cherddwch i’r gyffordd lle mae ffordd un trac. Trowch i’r dde wrth y gyffordd.
Cam 7
Dilynwch y ffordd am ychydig fetrau a chroeswch y bont bren fechan dros ffos i’r chwith. Mae’n eich arwain drwy weddillion y barics, a adeiladwyd i gartrefu’r cloddwyr yn y 1930au.
Cam 8
Dilynwch y llwybr drwy’r barics tan i chi gyrraedd y gyffordd â llwybr creigiog. Trowch i’r chwith i’r llwybr, sy’n hen ffordd porthmyn. Dilynwch y llwybr i lawr, heibio i fynedfa cloddfa i’r dde ohonoch. Dilynwch y trac nes i chi gyrraedd y gyffordd rhwng y trac a ffordd un trac.
Cam 9
Trowch i’r chwith i’r ffordd un trac a’i dilyn nes eich bod yn ôl ym Maes Parcio’r Coetir (bydd y fynedfa i’r dde ohonoch, ychydig wedi mynedfa’r safle Carafannau).
Man gorffen
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403
Map llwybr
![Map yn dangos llwybr a grisiau Ffordd y Cloddiwr yn Nolaucothi](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/miners-way-trail-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Ymwelwyr yn paratoi i fynd i’r pwll ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/summer/dolaucothi-gold-mines-carmarthenshire-visitors-countryside-trees-path-1295976.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
![Golygfa o barcdir gwyrdd gyda choed mawr yn eu dail](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/summer/estate-parkland-summer-dolaucothi-wales-1296041.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded Parcdir Dolaucothi
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.
![Golygfa o lwybr coetir priddlyd yn Nolaucothi, wedi’i amgylchynu gan goed llawn dail yn Sir Gâr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/summer/woodland-path-dolaucothi-wales-1296044.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr Coetir Dolaucothi
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.
![Golygfa o’r awyr o gefn gwlad, caeau a choedwigoedd gyda’r coed yn dechrau dangos lliwiau’r hydref](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/autumn/dolaucothi-farm-wales-autumn-1276214.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr Ystâd Dolaucothi
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Golygfa o barcdir gwyrdd gyda choed mawr yn eu dail](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/summer/estate-parkland-summer-dolaucothi-wales-1296041.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
![Visitors walking through the sheltered valley at Lockeridge Dene and Piggledene, near Marlborough, Wiltshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/visit/dog-friendly/dog-walking-sheltered-valley-lockeridge-dene-and-piggledene-1551546.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.
![Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/winter/view-coast-walker-marloes-pembrokeshire-wales-1770573.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)