
Llwybr Ystâd Dolaucothi
Dilynwch y gylchdaith hon i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi yn Sir Gâr. Mwynhewch y golygfeydd o Afon Cothi, Mwyngloddiau Aur Dolaucothi a phentref Pumsaint, cyn dychwelyd ar hyd hen reilffordd. Fe allech weld gwiwer goch neu fele’r coed yn y coetir.
Cyfanswm y camau: 12
Cyfanswm y camau: 12
Man cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403
Cam 1
Dechreuwch ym maes parcio’r coetir (gyferbyn â maes parcio’r Mwyngloddiau Aur). Ym mhen pellaf y maes parcio, dilynwch y llwybr troed.
Cam 2
Dilynwch y llwybr. I’r dde fe welwch Barc Carafannau heddychlon Ystâd Dolaucothi.
Cam 3
Croeswch y bont a throwch i’r dde.
Cam 4
Trowch i’r chwith oddi ar y trac a dilynwch y llwybr troed drwy’r coetir ac ar draws y cae.
Cam 5
Gadewch y cae drwy’r gât ac ewch yn syth ymlaen drwy’r goedwig, gan ymuno â’r trac fferm.
Cam 6
Ar ddiwedd y trac fferm, croeswch heol y goedwigaeth ac ewch drwy’r gât i mewn i’r cae, yna dilynwch y llwybr ar draws y cae gan fynd lan rhiw.
Cam 7
Dilynwch y trac i’r dde a dilynwch y llwybr drwy’r goedwig a’r tir amaeth i’r pwynt triongli, sy’n cynnig golygfeydd gogoneddus dros Ddyffryn Cothi. Dyma bwynt uchaf yr ystâd ar 925tr (282m), ac mae angen gwneud ychydig o ddringo i gyrraedd y brig.

Cam 8
O’r pwynt triongli, ewch tua’r gogledd-ddwyrain.
Cam 9
Trowch i’r dde i lawr darn serth iawn o’r llwybr, yna trowch i’r dde eto cyn dod at yr afon.
Cam 10
Dilynwch y llwybr ar hyd llawr y dyffryn gydag Afon Cothi yn ymdroelli i’r chwith ohonoch. Gall y rhan hon o’r llwybr fod yn fwdlyd yn y gaeaf.
Cam 11
Lle mae’r afon yn dechrau llifo i ffwrdd ohonoch, dilynwch ymyl y cae i ymuno â heol y goedwigaeth. Trowch i’r chwith i heol y goedwigaeth a’i dilyn yn syth i bentref Pumsaint.
Cam 12
Lle mae’r trac yn cwrdd â’r heol, gallwch droi i’r dde i grwydro pentref Pumsaint, neu droi i’r chwith ac ymuno’n ofalus â’r palmant ar ymyl y ffordd, lle mae’n croesi’r afon. Wrth yr arwydd ffordd ar gyfer Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, mae’r llwybr yn gwahanu – ewch i’r chwith a cherddwch yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn


Llwybr Coetir Dolaucothi
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.

Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.

Taith gerdded Parcdir Dolaucothi
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)