
Taith gerdded Parcdir Dolaucothi
Cylchdaith rwydd o gwmpas tiroedd plasty Dolaucothi. Mae’r llwybr yn eich tywys ar lan afon ac ar hyd y brif rodfa i’r plasty. Yn y gwanwyn mae’r gerddi o dan garped o glychau’r gog ac yn yr hydref mae’n lle gwych i ddod o hyd i ffyngau.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN66240
Cam 1
Dechreuwch ym maes parcio’r Coetir (gyferbyn â maes parcio’r mwyngloddiau aur). Ym mhen pellaf y maes parcio, dilynwch y llwybr troed.
Cam 2
Dilynwch y llwybr. I’r dde fe welwch Barc Carafannau tawel Ystâd Dolaucothi.
Cam 3
Dilynwch y llwybr ar hyd Afon Cothi a chadwch olwg am las y dorlan a dyfrgwn sydd weithiau i’w gweld ar y rhan hon o’r daith. Ewch drwy’r gât i’r trac a throi i’r chwith, i lawr at y bont.
Cam 4
Croeswch y bont a throi i’r dde i’r trac. Cadwch olwg am y gât i’r chwith ohonoch yng nghornel yr ardd furiog.
Cam 5
Dilynwch y llwybr, gyda’r ardd i’r dde ohonoch. Mae pob math o lwyni a chonifferau yn tyfu yma; dyma weddillion yr ardd oedd yma yn yr 1800au. Ewch drwy’r gât i mewn i’r cae. Edrychwch i’r dde, ac fe welwch lawnt fflat lle’r oedd plasty Dolaucothi yn sefyll.
Cam 6
Wrth i chi groesi’r llwybr pren, allwch chi weld y groto ymysg gwreiddiau’r coed? Roedd hwn hefyd yn rhan o ddyluniad yr ardd. Dringwch y grisiau yna trowch i’r chwith oddi ar y trac i lwybr cul drwy’r coed, uwchben glan yr afon.
Cam 7
Dilynwch y llwybr i’r fan lle mae’n ymuno â’r brif rodfa wrth y fynedfa i’r ffordd. Mae’r ganolfan ymwelwyr (a’r toiled) i fyny’r ffordd ar y dde. Yma gallwch ddysgu mwy am yr ardal, ac am Ystâd Dolaucothi. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd i ddychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Coetir Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN66240
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn


Llwybr Ystâd Dolaucothi
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.

Iard Gloddio a Llwybr y Mwynwyr
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.

Llwybr Coetir Dolaucothi
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.