Skip to content

Blagur Gerddi Dyffryn

Two visitors explore outside at Dyffryn Gardens, following a concrete path that leads to five steps leading down to a lower level of the garden. They're surrounded by evergreen foliage and a large white magnolia tree overhead.
Ble Maer Blagur, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg | © National Trust Images/Paul Harris

Mae blagur y gwanwyn yn achlysur blynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ni gysylltu â harddwch ac ystyr y gwanwyn ar ôl misoedd oerach, tywyllach, cysglyd y gaeaf.

Dewch i ddathlu harddwch y blagur yng Ngerddi Dyffryn rhwng 1 Mawrth a 31 Mai.

Dewiswch o galendr llawn digwyddiadau blagur sydd wedi'u cynllunio i’ch helpu i gysylltu â natur, annog meddwlgarwch a lledaenu llawenydd. Ymunwch â ni ar gyfer Taith Gwledd y Gwanwyn, llwybr neu weithdy ffotograffiaeth, amser stori i'r teulu neu sesiwn creu torchau.

Taith Gwledd y Gwanwyn

1 Mawrth - 31 Mai

O fis Mawrth i fis Mai bydd yr hyn a welwch ar y llwybr yn newid yn dibynnu ar adeg eich ymweliad.

I ddechrau, fe welwch y Crocysau, yr arwyddion bach llon ’na o newid. Ac yna wrth gwrs, y llonnaf (a'r mwyaf Cymreig) o’r holl flodau, y Cennin Pedr. Wrth i'r gwanwyn fynd yn ei flaen, fe welwch flagur Coed Bricyll, Magnolia, Wisteria, a blagur enwog y Coes Ceirios, felly mae'n werth dod ’nôl sawl tro i weld y gorau o'r tymor cyfan.

Casglwch fap Taith Gwledd y Gwanwyn o’r Ganolfan Croeso wrth gyrraedd a bydd yn eich tywys o amgylch yr enghreifftiau gorau a harddaf o flodau'r gwanwyn yn ein gerddi.

Does dim tâl ychwanegol am fap Taith Gwledd y Gwanwyn (ond bydd angen talu’r pris mynediad arferol i’r gerddi).

Lluniau blagur

1 Mawrth - 31 Mai

Mae ffotograffiaeth natur yn weithgaredd sy’n dda i’r meddwl – mae’n eich llonyddu ac yn eich annog i dalu sylw i’r harddwch o'ch cwmpas.

Mae paneli ffotograffiaeth yma ac acw o gwmpas yr ardd - yn y llefydd gorau i weld blagur - i’ch helpu i dynnu lluniau natur gwych gyda'ch ffôn neu gamera.

P'un a ydych chi'n ffotograffydd amatur brwd, yn ddechreuwr â chamera newydd, neu'n dymuno tynnu lluniau gwell ar eich ffôn, mae pob panel ffotograffiaeth yn cynnwys awgrym arbennig ac enghreifftiau i'ch helpu chi gyda phethau fel yr onglau gorau, lluniau agos, lluniau llydan a chynnwys pobl yn eich lluniau blagur hefyd.

Mae’r paneli hefyd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am fioamrywiaeth Gerddi Dyffryn a'r rôl bwysig mae blagur yn ei chwarae yn amgylchedd Dyffryn.

Cyflwynwch eich llun i'n cystadleuaeth ffotograffau ar ein sianeli cymdeithasol trwy ein tagio yn eich postiad a defnyddio'r hashnod #GwleddyGwanwyn. Cadwch olwg am fanylion drwy ein dilyn ni ar:

Facebook - @DyffrynGardensNT Instagram - @dyffryngardennt Twitter - @DyffrynGardenNT

Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr i weld eich lluniau.

Flower Girl – Amser Stori gyda Lucy Owen

21 Ebrill, 11am a 12.30pm

Ymunwch â'r awdures Lucy Owen yng Ngardd Theatr Dyffryn am ddarlleniadau rhyngweithiol o'i llyfr plant, Flower Girl. Mae Cherry yn ferch fach sy’n cael ei gwneud drwy hud a lledrith gyda blodau coeden flagur hud. Gyda gwallt mor binc â phetalau a phili-pala anwes o’r enw Bud, mae hi ychydig yn wahanol i bawb arall!

Bydd Lucy yn aros o gwmpas i lofnodi copïau o’i llyfr, Flower Girl. Gallwch ddod â'ch copi eich hun neu gael un o'n siop wrth gyrraedd neu gan ein tîm yng Ngardd y Theatr ar ôl y darlleniad.

Bydd dau ddarlleniad, un yn dechrau am 11am ac un yn dechrau am 12.30pm. Mae’r digwyddiad hwn am ddim a does dim angen cadw lle (bydd angen talu’r pris mynediad arferol).

Lluniau o’r blagur – dysgwch gan yr arbenigwr

25 Ebrill, 10.30am-12.30pm & 1.30-3.30pm

Os hoffech wthio’ch hun ychydig ymhellach gyda’ch ffotograffiaeth, dewch i’n gweithdai ffotograffiaeth.  

Ymunwch â'n ffotograffydd preswyl, Glyn am sesiwn arbenigol sy'n trafod yr holl hanfodion.

Does dim angen camera arnoch i gymryd rhan – mae croeso i chi ddefnyddio ffôn. Bydd y sgwrs wedi’i theilwra i ddiddordebau a gallu’r grŵp, fel y gallwch wneud y mwyaf o’ch ffôn neu gamera – o arbenigwyr i amaturiaid brwd, neu os ydych chi yn syml eisiau tynnu lluniau gwell gyda’ch ffôn.

Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw yma. 

Gwneud torchau blagur byw

26 Ebrill, 10.30am-12.30pm & 2-4pm

Ymunwch â Rhian Rees o Wild and Fabulous Flowers am weithdy creu torchau byw yn yr Oriel. Dan arweiniad Rhian, dysgwch sut i greu torchau naturiol, hardd o fylbiau a gwyrddni a gynaeafwyd gan Dîm y Gerddi, ac ewch â darn bach o’r gerddi adre gyda chi.

Gan fod y torchau’n cael eu gwneud gan ddefnyddio bylbiau, byddant yn byw ymhell ar ôl i chi fynd â nhw adre, gan flodeuo a newid wrth i'r tymor fynd yn ei flaen. Bydd y sesiynau creu torchau yn cael eu cynnal yng Nghaffi'r Oriel lle bydd lluniaeth tymhorol hefyd ar gael i chi ei fwynhau wrth i chi greu eich campwaith. Allwn ni ddim aros i weld y creadigaethau byw bendigedig rydych chi'n eu gwneud.

Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw yma. 

A walking child under a Magnolia tree at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Under a Magnolia tree, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © Paul Harris

Mae Gŵyl y Blagur yn achlysur i gysylltu â natur ar ôl misoedd oerach, tywyllach, cysglyd y gaeaf. Mae’r gaeafgysgu ar ben - sbonciwch tua’r gwanwyn trwy ymgolli'ch hun yn llwyr yn harddwch y blagur yng Ngerddi Dyffryn.

Blossom tree covered in small pink flowers in the Arboretum at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Blossom tree in the Arboretum at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © National Trust
Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

A child in a colourful coat and hat exploring the frosty green gardens at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Erthygl
Erthygl

Diwrnodau i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn 

Darganfyddwch pam fod Gerddi Dyffryn yn lle gwych am ddiwrnod allan i’r teulu gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad.