![Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dyffryn-gardens/library/summer/herbaceous-border-in-summer-dyffryn-gardens-vale-of-glamorgan.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Gerddi Dyffryn yn lle gwych i ddod â’r teulu, o’r plant lleiaf i neiniau a theidiau, mae yma rywbeth i ddiddanu pawb.
Dyma’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i gynllunio diwrnod i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn:
Mwynhewch y rhyddid a ddaw gyda’r haf drwy ddod ar daith i’r teulu i Erddi Dyffryn a gwylio’r rhai bach yn rhedeg, neidio, chwarae a mwynhau anturiaethau diddiwedd yn y gerddi – efallai y caiff y rhai hŷn yn eich plith eu temtio i ymuno yn y miri hefyd.
Os byddwch chi’n ymweld yn ystod gwyliau'r haf bydd llawer o weithgareddau i'w mwynhau yn ystod ein digwyddiad teuluol Gemau Gerddi Dyffryn ond mae digon i'w wneud os byddwch chi'n ymweld yn ystod y tymor hefyd. Mwynhewch gêm o guddio yn y Gardd-Ystafelloedd neu’r Ardd Goed; hopiwch, camwch, a neidiwch o foncyff i foncyff yn ein dwy ardal chwarae neu dewch â ffrisbi neu bêl am gêm gyfeillgar ar y lawntiau.
Mae Caffis yr Ardd a’r Oriel ar agor bob dydd yn ystod gwyliau'r haf (yn ystod y tymor mae Caffi’r Ardd ar agor bob dydd ac mae Caffi'r Oriel ar agor ar benwythnosau) fel y gallwch ymlacio gyda diod oer a hufen iâ neu gasglu bocs bwyd i’r plant.
Dyma bedwaredd flwyddyn y 'dolydd bach' ar y Lawnt Fawr – bydd y plantos yn siŵr o fwynhau rhedeg i mewn ac allan ohonynt. Un o’n rhesymau dros dyfu’r dolydd hyn yw i gynyddu ein hamrywiaeth o beillwyr, pryfed, adar a gweision neidr. Sawl pili-pala, gwyfyn, gwas y neidr neu fursen y gall eich rhai bach ddod o hyd iddyn nhw? A chofiwch chwilio am fwystfilod bach yn y llwyni, y glaswellt a’r darnau rhisgl.
Rhwng 20 Gorffennaf a 31 Awst bydd Dyffryn unwaith eto'n croesawu Gemau Gardd Dyffryn.
Bydd nifer o gemau a champau yma ac acw o gwmpas y gerddi i alluogi teuluoedd i chwarae gyda'i gilydd yn yr awyr iach yr haf hwn. Pwy fydd yn ennill ras y clwydi? Pwy fydd pencampwr tennis bwrdd y teulu? A phwy fydd yn cipio'r wobr saethyddiaeth? Pwy fydd yn sefyll yn falch ar y safle cyntaf ar bodiwm arbennig Gemau Gardd Dyffryn?
Yn rhan o fenter Haf o Chwarae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, does dim angen archebu lle a does dim tâl ychwanegol i chwarae Gemau Gardd Dyffryn (bydd angen talu’r pris mynediad arferol - mynediad am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Mae ddwy ardal chwarae wyllt yn Nyffryn, un y tu allan i’r rhwystr talu ger y ganolfan groeso ac un fwy o lawer yn yr Ardd Goed. Mae digon o le yn yr ardaloedd chwarae gwyllt i’r rhai bach losgi rhywfaint o egni a mwynhau’r mwd.
Ceisiwch gadw eich cydbwysedd ar hyd y coed enfawr a gafodd eu cwympo fel rhan o’r cynllun i adfywio’r ardd goed, sbonciwch o foncyff i foncyff ar hyd y cerrig camu a mwynhewch bicnic ar bonion picnic a gerfiwyd â llaw.
Mae’r ardal yn gartref i wiwerod, adar a llawer o fwystfilod bach, felly dewch â chwyddwydr neu finocwlars i gael golwg graffach.
Hyd yn oed rhwng ein digwyddiadau, mae Dyffryn yn opsiwn gwych am ddiwrnod allan i’r teulu. Gyda phob tymor newydd mae’r gerddi’n newid ac yn esblygu, felly mae bob amser rywbeth newydd i’w weld.
Mae gennym lwybrau tymhorol i chi eu mwynhau hefyd. Casglwch daflen o’r Ganolfan Groeso a fydd yn eich tywys at uchafbwyntiau tymhorol y gerddi. Gweler y dudalen Y Gerddi yn Nyffryn am ragor o wybodaeth am y llwybr tymhorol sydd ar gael nawr.
A gyda chaffi, siop a siop lyfrau ail-law (gyda dewis gwych o lenyddiaeth i blant ac oedolion ifanc) mae digon i’ch diddanu bob amser yng Ngerddi Dyffryn. Felly pryd bynnag y dewiswch ymweld, gallwch fod yn siŵr y gwnewch chi a’ch teulu atgofion i’w trysori.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.