Darganfyddwch fwy am draeth Llanbedrog
Dysgwch sut i gyrraedd Traeth Llanbedrog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhawyd traeth tywodlyd Llanbedrog gan genedlaethau ers i bobl oes Fictoria ddechrau ymweld â’r ardal gyntaf. Mae’n fae cysgodol a golygfeydd dros Fae Ceredigion. Yn dal yn boblogaidd gyda theuluoedd heddiw, dyma’r lle perffaith i dreulio diwrnod ar y traeth.
Mae’r tywod sy’n gostwng tua’r môr yn raddol yn cynnig lleoliad gwych am ddiwrnod i deulu ar lan y môr. Ceir digon o le i blant badlo yn y dŵr. Safodd cytiau traeth lliwgar ar y traeth ers cyfnod Fictoria. Mae’r cytiau a’r cabanau yn dal i ddod â lliw a bywiogrwydd hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog.
Gellir gweld adar yr arfordir yn chwilota yn y tywod ar drai. Fe glywch gân unigryw piod y môr a’r gylfinir sy’n dod o hyd i fwyd yn y tywod.
Mae amrywiaeth o bryfed yn byw yn y coetir a’r gweundir sy’n amgylchynu’r traeth. Ewch am dro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau i weld gloÿnnod byw yn hedfan.
Dringwch trwy weundir Mynydd Tir y Cwmwd am well golygfa o Benrhyn Llŷn a Bae Ceredigion. Arhoswch i weld y cerflun o ddyn o dun sy’n edmygu’r olygfa yma.
Gellir cael pecynnau antur hwyl i deulu o’r maes parcio. Mae’r pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diddorol gan gynnwys hela pryfed, gemau a llwybrau dail. Fe allech gychwyn arni trwy roi tic yn y blwch wrth y ‘50 o bethau i’w gwneud cyn bod yn 11¾’.
Mae croeso i’ch anifail hoff ddod i’r traeth trwy’r flwyddyn. Rhwng 1 Ebrill a 30 Medi bydd angen i’ch ci fod ar dennyn ar y prif draeth. Bydd taith fer i ben draw’r cytiau traeth yn rhoi mwy o le a rhyddid iddynt ddod oddi ar y tennyn os dymunwch.
Mae parcio am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Sylwer mai dim ond darnau o arian y mae’r peiriannau talu ac arddangos yn eu derbyn. Gallwch dalu ar-lein trwy ddefnyddio PayByPhone. Rydym yn argymell y dylech lawrlwytho’r ap cyn eich ymweliad.
Mae toiledau cyhoeddus ar gael (nid rhai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Os oes gennych ychydig mwy o amser yn ystod eich ymweliad pam na ewch chi i’r oriel gelf hynaf yng Nghymru. Mae Oriel Plas Glyn y Weddw gerllaw (nad yw’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn sefyll gyda golygfeydd gwych ar draws y bae. Erbyn hyn mae wedi ei hymestyn i gynnwys canolfan gelf, siop a chaffi. Mae amgueddfa newydd yn esbonio sut y daeth yr ardal yn gyrchfan mor boblogaidd i bobl cyfnod Fictoria.
Dysgwch sut i gyrraedd Traeth Llanbedrog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)
Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)