Cylchdaith Mynydd Mawr a Braich y Pwll

Ewch am dro o amgylch pwynt mwyaf gorllewinol y penrhyn lle gallwch chi brofi golygfeydd arfordirol gwych, gwylio bywyd gwyllt a darganfod nodweddion daearegol anhygoel.
Cyfanswm y rhannau: 4
Cyfanswm y rhannau: 4
Man cychwyn
Maes parcio yng ngwaelod Mynydd Mawr, Uwchmynydd.
Rhan 1
Dilynwch y ffordd darmac hyd at ben Mynydd Mawr nes cyrraedd cwt Gwylwyr y Glannau ar y copa. Mwynhewch olygfeydd panoramig o Ynys Enlli, Llŷn ac Eryri, ac ar ddiwrnodau clir, bryniau Preseli yn Sir Benfro a Wiclow, Iwerddon.

Rhan 2
Parhewch i lawr y llwybr tarmac ac i lawr y grisiau nes i chi gyrraedd rhan goncrit.
Rhan 3
O'r fan hon fe welwch arwyddbost gwyn wedi'i farcio â logo Llwybr Arfordir Cymru yn eich cyfeirio i fynd i'r chwith. Parhewch ar hyd y llwybr hwn a mwynhewch olygfeydd o Ynys Enlli a’r clogwyni dramatig wrth i chi deithio lawr Mynydd Mawr.

Rhan 4
Yn y dyffryn rhwng Trwyn Maen Melyn a Mynydd y Gwyddel, bydd arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru a fydd yn eich cyfeirio tuag at y dde. Yn hytrach na dilyn y llwybr, trowch i'r chwith a pharhau i fyny'r allt ym Maen Melyn. Parhewch nes i chi weld y ffordd darmac ac ewch i'r chwith yn ôl i'r maes parcio isaf.
Man gorffen
Parcio yng ngwaelod Mynydd Mawr, Uwchmynydd
Map llwybr

Cysylltwch

Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci
Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.

Mynydd Mawr a Braich y Pwll
Cerddwch ar hyd llwybr yr arfordir ym Mynydd Mawr a Braich y Pwll ger Aberdaron, gyda golygfeydd yn edrych dros Ynys Enlli a Phen Llŷn.