Skip to content

Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci

Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.
Mynd â chŵn am dro ar draeth Llanbedrog | © National Trust Images/James Dobson

Mae pob ci yn haeddu chwarae yn y môr weithiau. Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes. Dewch â thennyn gyda chi bob amser – dydych chi byth yn gwybod pryd fyddwch chi'n dod ar draws dafad neu ddwy wrth grwydro. Peidiwch ag anghofio eich bagiau baw ci, defnyddiwch y biniau a ddarperir neu ewch ag unrhyw wastraff adref gyda chi. Mwynhewch eich taith.

Ein system pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Ben Llŷn sgôr o un bawen.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Mae llawer o lefydd i ymweld â nhw ym Mhen Llŷn, darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch chi fynd â'ch ci.

Ble gall fy nghi fynd ym Mhen Llŷn?

Traeth Llanbedrog
Dewch â’ch cŵn gyda chi i draeth Llanbedrog lle gallwch fwynhau taith gerdded milltir o hyd ar hyd y traeth tywodlyd. O 1 Ebrill tan 30 Medi bydd angen cadw cŵn ar dennyn tan y tu hwnt i’r cytiau traeth. Rydym yn cynnig bagiau baw am ddim o’r caban ymwelwyr a’r cyfan a ofynnwn yw eich bod yn defnyddio’r bin a ddarperir wrth fynedfa’r maes parcio. Mae traeth Llanbedrog yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â traeth Llanbedrog
Porthor
Dewch â’ch ci am dro gaeafol i Borthor, does dim cyfyngiadau o 1 Hydref tan 31 Mawrth. Yn ystod misoedd yr haf (1 Ebrill i 30 Medi) ni chaniateir cŵn ar y traeth, er y gellir mynd â nhw i'r caffi ac eistedd ar y teras. Mae mynediad i Lwybr Arfordir Cymru i’r ddau gyfeiriad heb fynd ar y traeth oddi yma. Neu cerddwch ar hyd yr arfordir garw uwchben Porthor drwy gydol y flwyddyn gyda’ch ci. Mae Porthor yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â Porthor
Cerddwyr cŵn ar draeth Porthdinllaen, Gwynedd, Gogledd Cymru
Mae Porthdinllaen yn le perffaith i ymweld gyda'ch ci | © National Trust Images/ James Dobson
Porthdinllaen  
Man cerdded cŵn poblogaidd iawn sy'n cychwyn yn ein maes parcio ym Mhorthdinllaen a dilyn y llwybr ar hyd y traeth i’r pentref pysgota prydferth. Gadewch i’ch cŵn orffwys tra byddwch yn eistedd yn ôl ac ymlacio wrth fwynhau diod yn Nhafarn y Tŷ Coch. Sylwch fod cyfyngiadau wrth i chi fynd i'r traeth i'r dde (tuag at Nefyn) o Ebrill 1af hyd at Fedi 30ain. O Dŷ Coch gallwch barhau ar hyd y llwybr tuag at orsaf y bad achub a thrwy’r cwrs golff yn ôl i’r maes parcio. Cadwch eich ci ar dennyn wrth i chi gerdded drwy’r cwrs golff – rhag ofn i darfu ar unrhyw golffwyr. Mae Porthinllaen yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â Porthdinllaen
Porth Meudwy  
Ewch ar bererindod i Borth Meudwy; cildraeth bychan ar benrhyn Llŷn a fu unwaith yn fan cychwyn i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli. Eisteddwch yn ôl ar y traeth wrth i chi wylio'r pysgotwyr lleol neu dwristiaid yn gwneud eu ffordd i Ynys Enlli. Mae Porth Meudwy yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â Porth Meudwy
Mynydd Mawr a Braich y Pwll
Ewch ar antur i bendraw'r byd gyda’ch ffrind pedair coes, lle cewch eich cyfarch â’r olygfa orau o Ynys Enlli a golygfeydd panoramig yn ymestyn allan cyn belled ag Iwerddon a de Cymru ar ddiwrnod clir. Mae Mynydd Mawr a Braich y Pwll yn lleoliad 1 pawenYmweld â Mynydd Mawr a Braich y Pwll
Pistyll
Mwynhewch yr heddwch a’r tawelwch gyda’ch ffrind pedair coes ar hyd y llwybr i draeth trawiadol Porth Pistyll a mwynhewch y golygfeydd dros Fôr Iwerddon a bryniau dramatig yr Eifl ar hyd y ffordd. Mae Pistyll yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â Pistyll
Morfa a Nant Bach
Cerddwch gyda'ch ci ar hyd y traeth a'r llwybr arfordir yng nghysgod yr hyn a fu unwaith yn chwarel wenithfaen fwyaf y byd. Byddwch yn ofalus ar hyd y clogwyni a chadw eich ffrind ar dennyn. Mae Morfa a Nant Bach yn lleoliad 1 pawen.Ymweld â Morfa a Nant Bach
Ynys Enlli o Fynydd Mawr
Ynys Enlli o Fynydd Mawr | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Dewch o hyd i'r lle nesaf i gerdded eich ci yng Nghymru

Mae digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru. O fynyddoedd a thraethau i erddi a pharciau, darganfyddwch lefydd i gerdded a chrwydro.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa tuag at Borthdinllaen, pentref pysgota bach gydag ychydig o fythynnod gwyngalchog dan glogwyn glaswelltog ym Mhenrhyn Llŷn, Cymru. Mae ychydig o longau pysgota yn y dŵr a phobl yn cerdded ar y clogwyn uwchben y pentref.
Erthygl
Erthygl

Llŷn 

Dysgwch am bethau i’w gweld a’u gwneud yn Llŷn, penrhyn o draethau mawr eang a diwylliant cyfoethog. Darganfyddwch y lleoedd gorau i gael cip ar eich hoff anifeiliaid glan môr a ble i aros yn ystod eich ymweliad.

Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn 

Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.

A visitor with their dog leaving the Muddy Paws café at Lyme Park, Cheshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Traeth Llanbedrog ar drai ar Benrhyn Llŷn, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Llanbedrog 

Traeth tywodlyd cysgodol gyda chytiau traeth lliwgar yn edrych dros Fae Ceredigion.

Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Traeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Lle
Lle

Porthor 

Mae’r traeth hyfryd hwn yn enwog am ei ‘dywod sy'n chwibanu’ a’i ddyfroedd disglair ar ochr ogleddol Pen Llŷn.

Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o’r traeth a phentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r arfordir i’w weld ar y dde, clogwyn gwyrdd y tu ôl i’r pentref a phobl yn cerdded ar hyd y traeth
Lle
Lle

Porthdinllaen 

Hen bentref pysgota yn gorwedd ar ddiwedd rhuban tenau o dir yn ymestyn i Fôr Iwerddon.

Morfa Nefyn, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci 

Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.