![Golygfa dros giât mochyn gyda grisiau yn mynd i lawr trwy laswellt at y lan, gyda’r môr tu hwnt a’r haul yn isel yn yr awyr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porth-y-swnt/library/view-porth-meudwy-coast-path-porth-y-swnt-wales.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith arfordirol Porth Meudwy
Mwynhewch daith arfordirol gylchol o Aberdaron i Borth Meudwy, harbwr pysgota bychan ar ben eithaf Penrhyn Llŷn a fu ar un adeg yn fan i’r pererinion fyrddio cychod ar eu taith i Ynys Enlli.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Porth y Swnt, Aberdaron, cyfeirnod grid: SH172264
Cam 1
Cychwynnwch eich taith yn y maes parcio agosaf at ganolfan ymwelwyr Porth y Swnt.
Cam 2
Mae eich llwybr ar y dechrau’n dibynnu ar y llanw. Os yw’r llanw ar drai, ewch trwy’r maes parcio ac i’r traeth. Dilynwch y traeth i’w ben mwyaf gorllewinol nes gwelwch chi risiau yn arwain i fyny’r pentir ar y chwith. Os yw’r llanw’n uchel, ewch i ben pellaf y maes parcio a dilyn y llwybr i fyny i’r dde, gan ddilyn yr arwyddion am Borth Simdde. Pan fyddwch bron â chyrraedd y ffordd, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru sy’n arwain i lawr i’r chwith. Dilynwch y llwybr yma nes bydd yn mynd i lawr i’r traeth.
Cam 3
Dringwch y grisiau ar ben draw’r traeth, i fyny i’r pentir a throi i’r chwith i Lwybr Arfordir Cymru. Gwyliwch am y frân goesgoch yn plymio i mewn ac allan.
Cam 4
Daliwch y llwybr nes cyrhaeddwch chi set arall o risiau. Ewch i lawr y grisiau i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.
![Cychod pysgota, rhwydi ac offer ar y traeth bychan ym Mhorth Meudwy, gyda llwybr yn arwain i lawr at y lan ac yn dal i fynd i fyny’r llechwedd tu hwnt iddo](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porth-y-swnt/library/cove-porth-meudwy-porth-y-swnt-wales.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 5
Trowch i’r dde allan o Borth Meudwy a dilyn y trac nes cyrhaeddwch chi’r ffordd. Trowch i’r dde a cherdded heibio Cwrt, canolfan warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwch y ffordd am hanner milltir nes y cyrhaeddwch chi gyffordd.
Cam 6
Trowch i’r dde yn y gyffordd a dal i fynd ar hyd y ffordd. Pan gyrhaeddwch chi’r groesffordd, trowch i’r dde eto. Dilynwch y ffordd am hanner milltir nes y cyrhaeddwch yn ôl yn Aberdaron.
Man gorffen
Maes parcio Porth y Swnt, Aberdaron, cyfeirnod grid: SH172264
Map llwybr
![Map taith Porth Meudwy, Porth y Swnt, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porth-y-swnt/library/porth-meudwy-walk-map-porth-y-swnt-wales.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Dwy ynys fechan gron, sef Dinas Fawr a Dinas Bach.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porthor/library/porthor-and-the-whistling-sands-walk.jpg?auto=webp&width=733&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Porthor
Mae’r golygfeydd yn rhyfeddol ar hyd yr arfordir garw hwn ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hon yn daith wych i amgyffred peth o hanes a threftadaeth yr ardal.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![Nifer o gerfluniau o ffigyrau syml yn cael eu harddangos mewn ystafell dywyll gyda gwawl las yn arddangosfa ‘Y Dwfn’ ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porth-y-swnt/library/built-heritage-history-and-collections/the-deep-porth-y-swnt-aberdaron-gwynedd-1222612.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.