
Cylchdaith Pistyll
Archwiliwch dirwedd hanesyddol sy'n gyforiog o archeoleg a bywyd gwyllt.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Parcio ger arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Pistyll. Ar gyfer satnav defnyddiwch LL53 6LR.
Cam 1
O’r lle parcio, ewch drwy’r giât mochyn ger arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan ddilyn y wal gerrig i fyny’r bryn ar y dde.

Cam 2
Ar ôl pasio drwy cwpwl o giatau eraill rydych nawr mewn cae agored. Ewch lawr y bryn gan anelu at ganol y cae lle gwelwch giât fochyn arall. Ewch drwy’r giât a dilyn y ffens ar y chwith am y ffermdy.

Cam 3
Ewch drwy’r giât mochyn ar y dde gan gadw i’r chwith a pasio drwy giât arall. Croeswch y trac ac ewch drwy giât pren gan anelu at ongl dde uchaf y cae.

Cam 4
Dilynwch y trac i’r chwith gan groesi’r gamfa ar y dde. Parhewch i fyny a phasio drwy ddwy giât mochyn arall.

Cam 5
Pasiwch drwy giât haearn gan anelu i gyfeiriad y bwthyn. Cadwch i’r chwith ger y wal gerrig a phasiwch drwy giât arall wedyn dilyn y ffens ar y chwith. Ar ôl cyrraedd y maes parcio ar gyrion Yr Eifl, dilynwch y lôn tarmac i lawr am Nant Gwrtheyrn.

Cam 6
Rydych nawr wedi cyrraedd Canolfan Treftadaeth Nant Gwrtheyrn. Parhewch i ddilyn y lôn lawr am y traeth gan ddilyn arwyddbyst Llwybr Arfordir Cymru i’r chwith. Mae’r llwybr yn mynd a chi uwchben Porth y Nant, drwy goetir ac mi fydd angen croesi afon fechan.
Cam 7
Unwaith eich bod wedi cyrraedd trac, dilynwch y ffordd i lawr gan barhau i ddilyn arwyddbyst llwybr yr arfordir.

Cam 8
Parhewch i ddilyn yr arwyddbyst nes cyrraedd eglwys Beuno Sant ym Mhistyll. Cerddwch i fyny’r ffordd tarmac.

Man gorffen
Parking near National Trust signage, just off the main road.
Map llwybr

Cysylltwch


Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci
Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.