Darganfod mwy ym Mhlas yn Rhiw
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.
Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw
Yn 2023, fe wnaethom y penderfyniad i gau Plas yn Rhiw fis ynghynt na’r arfer er mwyn cychwyn ar brosiect adnewyddu sylweddol. Y prif ffocws fu'r prosiect ail-doi, a oedd yn cynnwys ailosod 4830 o lechi. Yn ogystal â’r prosiect toi, achubwyd ar y cyfle i wneud tasgau cynnal a chadw hanfodol megis atgyweirio a phaentio’r ffenestri ac ailosod unrhyw rai sy’n dirywio. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd yn aml gyda phrosiectau mor fawr, rydym wedi wynebu heriau ar hyd y ffordd, gan gynnwys tywydd garw a lesteiriodd ein cynnydd.
Un dasg arbennig o anodd oedd adleoli ein poblogaeth gwenyn annwyl i sicrhau eu diogelwch yn ystod y gwaith adnewyddu.
Datgelodd arolygon pellach a gynhaliwyd yn ystod y broses adnewyddu'r angen am waith adfer sylweddol ar y gwaith coed a'r grisiau. O ganlyniad, bydd y tŷ yn parhau ar gau trwy gydol y gwanwyn.
Er y gall y prif dŷ fod yn cael ei adnewyddu, mae'r ardd a'r ystafell de yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr. Mae’r golygfeydd godidog sydd wedi swyno cenedlaethau mor hudolus ag erioed, gan ddarparu’r cefndir perffaith ar gyfer mynd am dro hamddenol, mwynhau danteithion blasus a chael sgwrs gyda thîm Plas yn Rhiw.
Yn ystod y cyfnod cau hwn, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn rhannu adroddiadau cynnydd, cipolwg tu ôl i'r llenni, ac efallai hyd yn oed ychydig o bethau annisgwyl ar hyd y ffordd.
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.