Skip to content

Hanes Plas yn Rhiw

Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae hambwrdd brecwast, tebot a chwpanau ar fwrdd pren y gegin. Mae lle tân carreg a stôf ynddo, ac mae hors ddillad yn sefyll o’i flaen.
Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw | © National Trust Images/Robert Morris

O dŷ o'r 17eg ganrif i faenordy atyniadol o'r 19eg ganrif; dysgwch ragor am breswylwyr Plas yn Rhiw a'i adferiad ar hyd y blynyddoedd.

Perchenogion cynnar Plas yn Rhiw

John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yn yr 17eg ganrif, yr oedd ei deulu yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid. 

Aildrefnu’r tŷ

Daeth y tŷ i lawr trwy'r teulu i Jane Lewis, a briododd William Williams, perchennog Plas yn Rhiw, yn 1811. Priododd eu merch y Capten Lewis Moore Bennet, ac mae'n debyg mai'r briodas hon wnaeth ei arwain at addasu ac ehangu'r tŷ yn 1820. 

Asgell newydd i’r gegin

Ychwanegwyd adain y gegin i'r gogledd yng nghanol y 19eg ganrif a pharhaodd yr ystâd yn nwylo'r teulu hyd 1874, pan brynwyd hi gan Thomas Roberts ac y gosodwyd y lle i gyfres o denantiaid. Yn eu plith roedd yr Arglwyddes Strickland ac efallai mai hi wnaeth osod yr ardd. 

Yn ddiweddarach aeth Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac yna fe'i gadawyd yn y pen draw. 

Y chwiorydd Keating

Yn 1939 prynodd y chwiorydd Keating Plas yn Rhiw. Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy â'u mam Constance, i fyw ym Mhlas yn Rhiw. 

Ymgyrchwyr diflino 

Trwy eu hymdrechion brwd fe wnaethant adfer yr adeilad yn raddol, a oedd mewn cyflwr difrifol, ail-greu'r ardd, ac ymdrechu’n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd. 

Roedd y chwiorydd yn gefnogwyr taer i Gyngor Diogelu Cymru Wledig a sefydliadau cadwraeth. Fe wnaethant ymgyrchu’n llafar yn erbyn rhai cynigion; yn arbennig yn erbyn adeiladu gorsaf bŵer niwclear yn Edern. 

Yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, yn yr haf. Blodau lliwgar yn blodeuo mewn gwelyau ger gwrychoedd pren bocs, ac mae’r tŷ yn sefyll ar dir uchel uwch eu pennau.
Blodau’r haf yn blodeuo yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw | © National Trust Images/Gwenno Parry

Adfer yr ardd 

Cyn i'r chwiorydd Keating symud i Blas yn Rhiw roedd yr ardd wedi ei gorchuddio â mieri, roeddent mor drwchus wrth y drws ffrynt fel eu bod wedi gorfod dringo i mewn trwy'r ffenestr flaen. 

Hinsawdd mwyn

A hithau'n erw bron o ran maint, fe'i nodweddir â chyfres o ardaloedd wedi eu hamgáu â gwrych pren bocs a'u cysylltu gan lwybrau glaswellt a graean. Mae'r ardd dan y tŷ ar ochr bryn coediog, gan gynnig safle cysgodol ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau sy'n ffynnu yn yr hinsawdd mwyn. 

Nodyn mewn llawysgrifen 

Yn anffodus ni wnaeth y chwiorydd gadw llawer o nodiadau ac nid oes unrhyw ddyddiaduron yn cofnodi eu gwaith ar yr ardd, ac eithrio'r nodyn hwn gan Honora, a welwyd mewn pensil ar hen gatalog planhigion. 

'Magnolia mollicomata, planted by me in 1946, for the first time the tree is covered in perfect blooms, over 150 counted on the 7th April.'

- Honora Keating 

 

Uchafbwynt yr ardd 

Y goeden magnolia yw uchafbwynt yr ardd yn aml hyd heddiw, yn gynnar yn y gwanwyn ac yn Awst/Medi pan fydd wedi ei gorchuddio â ffrwythau rhuddgoch. 

I bawb, am byth 

Yn 1946 rhoddodd y chwiorydd y tir o gwmpas Plas yn Rhiw i ni er cof am eu rhieni, Constance a William Keating. Ni wnaethant roi gweddill yr eiddo hyd 1952. 

Agor y tŷ

Agorodd y chwiorydd y tŷ i'r cyhoedd (cyn iddo gael ei roi i'r Ymddiriedolaeth) ac fe wnaethant barhau i fyw yno nes i Lorna farw yn 1981. 

Mae Plas yn Rhiw yn parhau'r un fath heddiw, fel petai'r chwiorydd heb erioed adael. Chwiliwch am y garreg ddyddiad ar du blaen y tŷ; gydag '1634. IL' arni.

Tu mewn i’r Gegin ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae hambwrdd brecwast, tebot a chwpanau ar fwrdd pren y gegin. Mae lle tân carreg a stôf ynddo, ac mae hors ddillad yn sefyll o’i flaen.

Casgliadau Plas yn Rhiw

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt ym Mhlas yn Rhiw ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Gardd lliwgar Plas yn Rhiw
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.

Y berllan a blannwyd mewn gweirglodd uwch ben y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw 

Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.

Offer ymolchi gan gynnwys hufen dwylo ac eau de cologne Yardley, yn yr Ystafell Wely Felen ym Mhlas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw 

Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.

Ci ar dennyn yn crwydro eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci 

Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.