Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mewn cornel dawel o Blas yn Rhiw, trawsnewidiwyd cae i fod yn gartref i gasgliad o goed ffrwythau a gweirglodd ffyniannus, sydd yn awr yn llawn o liw gydag aroglau blodau a hymian gwenyn. Daliwch i ddarllen i gael gwybod am y gwaith sy’n cael ei wneud i gadw cynefin sy’n gyfoethog o ran blodau a bywyd gwyllt.
Yn ôl yn 2010 dechreuodd y garddwr ym Mhlas yn Rhiw ymchwilio i goed ffrwythau o Gymru a llunio rhestr ohonyn nhw, gan lunio cynllun ar gyfer y datblygiad newydd.
Y flwyddyn ganlynol, gyda help gan ysgol uwchradd leol, plannwyd dros 140 o goed, gan gynnwys coed afalau, eirin, gellyg a cheirios.
Ar y pryd hwn oedd y casgliad mwyaf o goed ffrwythau o Gymru yn y byd yr oedd gwybodaeth amdano. Ers iddo gael ei drosi o fod yn gae i ddefaid bori yn berllan, mae’r safle wedi newid yn ddramatig mewn cyfnod cymharol fyr.
Rheolir y berllan fel cae gwair sy’n cael ei dorri gyda thorrwr Ryetec yn hwyr ym mis Awst neu ddechrau Medi, ar ôl i’r hadau gael amser i ffurfio a gwasgaru.
Mae’r toriadau yn cael eu cludo oddi yno fel bod y lefelau maetholion yn y pridd yn lleihau dros amser, sef yr hyn sydd orau gan lawer o flodau gwyllt.
Caiff y gribell felen yn aml ei galw yn ‘wneuthurwr gweirglodd’ – mae’n rhannol barasitig ac yn gwanhau’r glaswelltau gan ei gwneud yn haws i flodau gwyllt ffynnu.
Bu Ysgol Crud y Werin, ysgol gynradd gerllaw, yn ein helpu i gasglu hadau’r gribell felen o gaeau un o’n tenantiaid, i’w gwasgaru mewn clystyrau trwy’r berllan.
Mae’r gribell felen wedi tyfu’n eithriadol o dda ac wedi lledaenu trwy’r safle cyfan, a phan fydd yr hadau yn aeddfed gellir clywed y sŵn ysgwyd unigryw wrth i chi gerdded rhwng y coed afalau.
Mae 97% syfrdanol o weirgloddiau wedi dirywio ers yr Ail Ryfel Byd, felly mae’n bwysig i ni fanteisio ar gyfleoedd i ailgyflwyno ac adfer y cynefin llawn bywyd gwyllt hwn.
Bob Gorffennaf rydym yn llenwi arolwg o’r glaswelltir i weld sut y mae’n datblygu ac i weld bod y dulliau rheoli yn gweithio. Dengys yr arolygon bod cyfradd y blodau gwyllt a’r rhywogaethau llysieuol wedi cynyddu’n sylweddol mewn cymhariaeth â’r glaswelltau.
Denodd hyn sylw gwenynwr lleol, gan gynnig lleoliad perffaith iddo osod rhai o’i gychod gwenyn ac mae’n ychwanegiad diddorol i’r safle. Mae’r gwenyn wedi bod yn wych am helpu i beillio, gan arwain at gnydau da o goed afalau cymharol ifanc.
Cynigiodd yr amrywiaeth o bynciau y gellir eu haddysgu y mae’r berllan yn eu cynnig gyfle gwych ar gyfer gweithgareddau gydag ysgolion a grwpiau, o’r broses o beillio a helfa trychfilod i gadwyni bwyd a chelfyddyd wyllt.
Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.
Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.