Darganfyddwch fwy ym Mhlas yn Rhiw
Dysgwch pryd mae Plas yn Rhiw ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Bu nifer o denantiaid ym Mhlas yn Rhiw ar hyd y blynyddoedd, y cyfan yn gadael eu hôl ar y tŷ trawiadol o’r 19eg ganrif yng Ngwynedd. Dysgwch pa drysorau a adawyd ar ôl a sut y gwnaeth y chwiorydd Keating ei droi yn gartref.
Pensaer o Gymru oedd Syr Clough Williams-Ellis a fo wnaeth greu’r pentref Eidalaidd ym Mhortmeirion, ac roedd yn ffrind agos i’r chwiorydd Keating, Eileen, Lorna, a Honora, a gafodd y tŷ yn 1939.
Pan fydd ymwelwyr yn dod i mewn i Blas yn Rhiw, fe fyddant yn sylwi ar lawr llechi gwyrdd trawiadol a drws Gothig hardd, Syr Clough ddaeth â’r ddau i’r tŷ. Fo hefyd ddaeth â’r colofnau derw sy’n cynnal y bwâu plaster neo-Sioraidd.
Achubwyd y tŷ ym Mhlas yn Rhiw rhag esgeulustod a’i adfer yn ofalus gan dair chwaer o’r teulu Keating. Dyma rai o’r rhannau gorau i ymwelwyr eu mwynhau.
Roedd y chwiorydd Keating yn mwynhau eistedd yn y parlwr yn gwrando ar recordiau ar eu Grafonola Columbia, yr oedd yn rhaid ei weindio, ac yn aml byddent yn gwahodd ffrindiau fel Syr Clough draw.
Yma roedd ganddynt amrywiaeth o ddodrefn a chasgliadau i weddu i bob chwaeth ar y pryd. Daeth eu dodrefn gorau, fel y secretaire o gyfnod y Rhaglawiaeth a’r gist ddroriau dderw o’r 17eg ganrif, o Nottingham lle’r oedd y chwiorydd yn byw’n wreiddiol.
Byddai’r chwiorydd Keating yn arddangos eu casgliad o jygiau lystar a thebotau ar eu dodrefn, ynghyd â’r lle tân oedd â’i bopty bara a chynheswr platiau ei hun.
Ychwanegwyd adain ogleddol y gegin yng nghanol y 19eg ganrif gan y teulu Lewis. Pan gafodd y chwiorydd Keating y tŷ, roeddent yn ei ddefnyddio fel mwy o ystafell waith, gyda sinc lechen a stôf baraffin Valor, er nad oedd gan Blas yn Rhiw drydan – hyd yn oed erbyn yr 20fed ganrif.
Dros y blynyddoedd bu llawer o drafod lleoliad y grisiau trwy’r tŷ, o’r teulu Lewis i’r teulu Roberts i’r chwiorydd Keating.
Erbyn hyn mae’r grisiau yng nghanol y cartref, gyda’r darn isaf o garreg a’r darn uchaf o dderw. Y rheswm am hyn yw bod lleithder wedi pydru gwaelod y grisiau, a bu’n rhaid i Syr Clough eu hailadeiladu.
Roedd y grisiau blaenorol yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 17eg ganrif pan adeiladwyd y tŷ gwreiddiol. Caewyd y rhain yn yr 1820au pan luniwyd y grisiau newydd.
Roedd gan y chwiorydd Keating gwpwrdd meddyginiaethau gyda stoc dda iawn oedd yn cynnwys amrywiaeth o dabledi, eli a diferion i drin yr amrywiaeth o gyflyrau yr oeddent yn dioddef ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Roedd hefyd yn cynnwys cynheswr bwyd o ddechrau’r 1900au, y gallai Honora fod wedi ei ddefnyddio yn ystod ei gyrfa yn nyrs.
Dysgwch pryd mae Plas yn Rhiw ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad BioBlitz - i'n helpu cofnodi cymaint o fywyd gwyllt â phosib. Mae amserlen lawn o weithgareddau wedi'u cynllunio gydag amrywiaeth o arbenigwyr bywyd gwyllt.
Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.
Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.
Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.