Gwnewch wahaniaeth, gwnewch rodd
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)
Nid tasg hawdd yw gofalu am gastell o’r drydedd ganrif ar ddeg, a dyna pam mae gennym dîm mewnol pwrpasol sy’n gofalu am y castell a’r casgliadau. O dapestrïau i fyrddau, o baentiadau i borslen, o loriau i ddodrefn, caiff yr holl bethau hyn eu diogelu a’u gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.
Mae tîm y Casgliadau a’r Tŷ yn mynd ati byth a beunydd i dynnu llwch oddi ar baentiadau hanesyddol, i fesur lefel y golau neu i hwfro’r carpedi – a dim ond rhai o’r tasgau cadwraeth pwysig yw’r rhain.
Mae aelodau’r tîm yn rhoi sylw i bob manylyn. Maen nhw’n cadw golwg ar bopeth – o amodau amgylcheddol yr ystafelloedd i arwyddion traul a gwisgo. Maen nhw’n cadw cofnodion manwl gywir o’r eitemau y gofalwn amdanynt ac yn gweithio gyda’i gilydd yn ddi-dor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswydd i ofalu am y castell a’r casgliadau.
Adeiladwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg ac mae’n gartref i wrthrychau gwerthfawr o bedwar ben byd. O’r herwydd, rhaid rhoi llawer o sylw a gofal i’r castell a’i gasgliadau gwerthfawr. Rydym yn mynd i’r afael â phrosiectau cadwraeth arbenigol drwy gydol y flwyddyn. Gall y prosiectau hyn amrywio o lanhau pob tudalen mewn llyfr i adfer cerflun i’w ffurf wreiddiol.
O 6 Chwefror 2023, bydd gwaith adfer mawr yn cael ei gynnal ar lawr marmor y Neuadd Fawr am gyfnod o chwe wythnos. Ar ôl blynyddoedd o gerdded ar y llawr, a hefyd oherwydd y pibellau dŵr poeth a leolir oddi tano, mae ambell un o’r teils wedi dechrau symud. Mae rhai wedi codi ac mae eraill wedi cracio – felly mae hi’n amser inni adfer y rhan hon.
Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr o Cliveden Conservation i dynnu’r holl deils, ailosod y tanlawr, trwsio’r teils sydd wedi cael difrod, ac yna eu hailosod i gyd. Wrth godi pob teilsen, bydd y cadwraethwyr yn cofnodi pob un, yn eu labelu ac yn eu storio’n ddiogel.
Rhan bwysicaf y gwaith yw ychwanegu uniad ehangu o amgylch ymyl y llawr – fe fydd hyn yn sicrhau y bydd modd i’r teils aros yn eu lle am flynyddoedd lawer i ddod. Trwy wneud hyn, bydd modd i’r teils ymestyn a chywasgu heb godi na chracio.
Bydd y gwaith yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn yn cael ei wneud ar ran gyntaf y llawr marmor, rhwng yr Ystafell Ysmygu a’r Ystafell Fwyta Swyddogol. Dim ond i raddau bach y bydd y gwaith yn effeithio ar fynediad i’r castell, a hynny am chwe wythnos o 6 Chwefror. Bydd modd ichi barhau i fynd i mewn trwy’r fynedfa trwy ddefnyddio’r grisiau cerrig o’r cwrt, ond byddwch yn mynd yn eich blaen trwy gwrt llai ac yn mynd i mewn i’r castell trwy’r Ystafell Fwyta Swyddogol.
Mae eich cefnogaeth yn hollbwysig o ran sicrhau y gallwn barhau â’r gwaith cadwraeth pwysig a wnawn yng Nghastell a Gardd Powis. Pa un a yw hynny trwy ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, trwy wario ceiniog neu ddwy yn y siop neu’r caffi, neu trwy wirfoddoli gyda ni – heboch chi, byddai’n amhosibl inni chwarae ein rhan yn siwrnai’r castell.
Ein gwirfoddolwyr yw rhai o’n cefnogwyr pennaf. Pan ddewiswch wirfoddoli yng Nghastell a Gardd Powis, yn aml bydd cyfleoedd i helpu mewn meysydd eraill yn dod i’r amlwg. Er enghraifft, mae gan rai o’n gwirfoddolwyr ddiddordeb ysol mewn gwarchod llyfrau, ac felly pan ddaw hi’n amser inni ddwstio’r llyfrau yn y Llyfrgell, rydym wastad yn ddiolchgar o’r cymorth ychwanegol.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.
Yn chwilio am ffordd wych o dreulio eich amser sbâr, cyfarfod pobl newydd, a gwneud gwahaniaeth? Dysgwch ragor am gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghastell Powis yng Nghymru.