Sut rydym yn adfer mawndir
Mae cors iach yn un ffordd o helpu i gadw dŵr yn agos i’w darddle. Mae cors Migneint yn enghraifft dda o hyn – mae’r dŵr glaw sy’n cyrraedd y Migneint yn cael ei hidlo drwy’r migwyn yn y gors, sy’n gweithio fel sbwng i arafu llif y dŵr.
Mae’r Migneint yn wlypach o lawer heddiw nag yr oedd ddegawd yn ôl, diolch i dros 35,000 o argloddiau newydd a dros 300km o ffosydd draenio wedi’u blocio. Mewn tro, mae hyn wedi helpu i adfer cynefin gwerthfawr, gwella ei allu i storio carbon a lleihau llifogydd ymhellach i lawr yr afon, ac mae cors wlypach hefyd yn helpu i leihau’r perygl o danau gwyllt a chyfnodau o sychder.
Gyda’i gilydd, mae hyn yn gwneud y Migneint yn hafan i’r boda tinwyn, y cwtiad aur a’r gylfinir, sy’n rhywogaethau cynyddol brin.
Plannu mwy o goed
Mae’r gorchudd coed hanesyddol wedi dirywio yn y dalgylch, fel llawer o rannau eraill o’r wlad, ac mae’r prosiect yn mynd i’r afael â hyn drwy blannu mwy o goed. Rydym yn gwneud hyn mewn ffordd sy’n ategu defnydd tir drwy blannu’r goeden gywir yn y lle cywir.
Yn Nyffryn Mymbyr ger Capel Curig, y lle gwlypaf yng Nghymru, rydym wrthi’n plannu miloedd o goed ar y dirwedd eang, ar lannau afonydd a nentydd ac ar wasgar ar draws y llethrau. Yn ogystal â helpu i arafu llif y dŵr, bydd yn gwella cynefin y ffridd ac yn creu coridor bywyd gwyllt gwerthfawr yn cysylltu tirweddau coediog Nant Gwynant a Chapel Curig.
Adfer afon
Un o flaenoriaethau’r prosiect yw adfer yr afonydd o fewn y dalgylch, sy’n cynnwys 12 o gyrff dŵr sydd, gyda’i gilydd, ag arwynebedd o 574 km².
Yn ddiweddar rydym wedi adfer rhan o Afon Machno yn Fferm Carrog i alluogi prosesau naturiol drwy gael gwared ar arglawdd artiffisial. Mae hyn wedi helpu i ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol, gan wneud mwy o le i ddŵr a natur sy’n helpu i leihau llifogydd ymhellach i lawr yr afon.
Rydym nawr yn defnyddio technegau y gwnaethom eu treialu yn Fferm Carrog ar safleoedd eraill yn y dalgylch, gan gynnwys Nant y Gwryd, afon sy’n llifo wrth odre copa uchaf Cymru, Yr Wyddfa.