Skip to content

Ymwelwch â harbwr Porthclais

Golygfa o Fae San Ffraid ar draws harbwr Porth Clais yn Sir Benfro
Harbwr Porth Clais ar ddiwrnod heulog | © NTPL/Joe Cornish

Mae Porth Clais yn harbwr bach prydferth ym mhen de-orllewinol Penrhyn Dewi. Ers talwm roedd yn borthladd masnach ac yn fwrlwm o ddiwydiant, ac mae bellach yn llecyn poblogaidd ar gyfer caiacio, hwylio a cherdded yr arfordir.

Pethau i’w gweld ym Mhorthclais 

Adeiladwyd yr harbwr yn y 12fed ganrif i wasanaethu dinas Tyddewi, a oedd yn borthladd prysur gyda llongau’n mewnforio ac allforio nwyddau ar gyfer y cymunedau arfordirol. Roedd pren, gwenith, calchfaen a glo ymysg yr eitemau a fasnachwyd, gyda’r ddau beth olaf yn tanio’r odynau calch a’r gwaith nwy gerllaw. 

Odynau calch 

Gallwch weld yr odynau calch ar naill ochr yr harbwr hyd heddiw, ond y cyfan sy’n weddill o’r gwaith nwy yw’r hen ystafell bwmpio.

Yr olygfa dros Fae San Ffraid, yn edrych tua’r Dwyrain o harbwr Porth Clais gyda chlogwyni dramatig a nythfa o adar môr, Sir Benfro, Cymru
Darganfyddwch Borthclais a Phenrhyn Dewi | © National Trust Images / Joe Cornish

Llwybrau’r arfordir, dringo, hel crancod a chaiacio

Ar ôl bod ar drywydd treftadaeth ddiwydiannol Porthclais, gwnewch y gorau o’r arfordir anhygoel. Mwynhewch daith gerdded gylchol o gwmpas Penrhyn Treginis neu ewch ling-di-long ar hyd y glannau.

Mae’r clogwyni i’r dwyrain o geg yr harbwr hefyd yn lle gwych ar gyfer dringo a mwynhau anturiaethau awyr agored. 

Oeddech chi’n gwybod?

  • Daeth yr harbwr a’r tir i’n gofal ni ym 1940 
  • Mae’r maes parcio ar safle’r hen waith nwy, a gafodd ei ddymchwel ar ddiwedd y 1960au 
  • Mae’r cofnod cyntaf o fasnach ym Mhorth Clais yn dyddio o 1385, mewn adroddiad am waith adeiladu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi 
  • Cafodd hen wal yr harbwr ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid mae’n debyg 
  • Mae’n debyg y defnyddiwyd calch o Borthclais yn y diwydiant amaeth i niwtraleiddio’r pridd asidig a gwella twf cnydau 

 

Caban Harbwr Porthclais ar ddiwrnod heulog, Penrhyn Dewi Sir Benfro
Caban Harbwr Porthclais ar ddiwrnod heulog. | © Ben Elliot

Caban Porthclais 

Mae’r hen ystafell bwmpio hon, sydd wedi’i hadeiladu o frics coch, bellach yn gaban arfordirol hyfryd sy’n cael ei redeg gan Ben a Caroline Elliot, dau o drigolion lleol Tyddewi.  

Beth sydd ar y fwydlen? 

Mae’r caban yn cynnig bwydlen o dameidiau ysgafn sydd wedi’i dylunio i wneud bywyd yn hawdd, gyda diodydd poeth, hufen iâ lleol, cacennau cartref, cawl, stiw, brechdanau wedi’u crasu a danteithion tymhorol ar gael. Mae ein bwydlen yn canolbwyntio ar gynhwysion lleol a phrydau blasus y gallwch eu mwynhau ar eich taith

Ar eich ymweliad, siaradwch ag un o’r tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Ble mae’r caban? 

Mae’r caban ger maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Harbwr Porthclais (SA62 6RR). Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i dudalennau Facebook ac Instagram Caban Porthclais.

Yr olygfa dros Fae San Ffraid, yn edrych tua’r Dwyrain o harbwr Porth Clais gyda chlogwyni dramatig a nythfa o adar môr, Sir Benfro, Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhenrhyn Dewi

Dysgwch sut i gyrraedd Penrhyn Dewi, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y machlud o gopa Carn Llidi ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Hanes Penrhyn Dewi 

Dysgwch fwy am wreiddiau Celtaidd Tyddewi, pererindodau a’n nawddsant a sut mae gorffennol cynhanesyddol yr ardal wedi gadael ei farc ar ddinas leiaf gwledydd Prydain.

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi 

Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.