Casgliadau Stagbwll
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Stagbwll ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
O feini hirion yr Oes Efydd i batrymau caeau’r Oes Haearn a chaerau pentir arfordirol, mae tirwedd Stagbwll wedi’i chreithio gan weithgarwch dynol, sy’n rhoi cip i ni ar ein gorffennol. Dysgwch fwy am hanes yr ardal hyd at ddirywiad yr ystâd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae'n anodd dychmygu'r adeiladau di-ri sydd wedi'u codi ar safle Llys Stagbwll dros y canrifoedd. Mae Stad Stagbwll, sydd wedi'i meddiannu ers yr oes Normanaidd, wedi ffynnu a ffaelu droeon dros y canrifoedd.
Yr arwyddion cyntaf o weithgarwch dynol yn Stagbwll. Mae gennym faen hir a siambr gladdu sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. Allwch chi ddod o hyd i Goeten y Diafol yng Nghwningar Stagbwll? Tybiwyd mai safle claddu oedd hwn ers talwm, ond erbyn hyn credwn mai man ymgasglu defodol ydoedd.
Gwnaeth trigolion yr Oes Haearn adeiladu caerau arfordirol i’w diogelu eu hunain rhag ymosodiadau. Mae dwy yn Stagbwll: mae Greenala ar yr arfordir rhwng Cei Stagbwll a Freshwater East ac ers talwm roedd Gwersyll Pwll Pysgod i’w weld yn sefyll ar yr arfordir, ond mae wedi diflannu i’r dyfroedd erbyn hyn.
Mae’r anheddiad Rhufeinig-Brydeinig yn cynnwys olion llociau anifeiliaid a chylchoedd cutiau. Byddai’r ardal wedi edrych yn wahanol iawn yn yr oes a fu – ni fyddai llynnoedd na choed pinwydd wedi bod ar gyfyl y lle, a byddai llawer o gaeau bach neu lociau gyda waliau cerrig garw.
Perchennog cynharaf Stagbwll, fwy na thebyg, oedd Elidyr de Stackpole, sy’n cael ei grybwyll gan Gerallt Gymro ym 1188. Mae cofeb iddo yn eglwys Elidor, Stagbwll. Y Normaniaid sy’n gyfrifol am batrwm y pentrefi a’r eglwysi cyfagos.
Pasiodd y stad drwy briodas o’r teulu de Stackpole i ddwylo’r teuluoedd Vernon a Stanley. Roedd cwningod yn cael eu ffermio yng Nghwningar Stagbwll ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno gan y Normaniaid – ar gyfer chwaraeon neu fwyd, dydyn ni ddim yn siŵr.
Roedd y teulu Lort yn Frenhinwyr, gan ochri gyda Brenin Siarl I yn Rhyfel Cartref Lloegr. Nhw oedd stiwardiaid y teulu Stanley yn wreiddiol, a gwnaethant brynu’r stad ym 1611.
Pan ymosodwyd ar Stagbwll yn ystod y Rhyfel Cartref, cuddiodd Roger Lort mewn ogof ger Bae Barafundle, yn ôl pob sôn, i osgoi cael ei ddal. Ar ôl gwarchae byr, ildiodd y teulu Lort.
Elizabeth Lort oedd etifeddes Stad Stagbwll a phriododd hi ag Alexander Campbell o Cawdor ym 1689, a oedd yn gyfaill prifysgol i’w brawd, Gilbert.
Adeiladodd y teulu Campbell blasty Sioraidd cynnar Llys Stagbwll yn yr arddull Baladaidd yn y 1730au ar safle’r tŷ caerog cynharach.
Etifeddodd Syr John Campbell II y stad ym 1777 a dechreuodd waith tirlunio ar raddfa enfawr. Cafodd dyffryn ei foddi'n ddiweddarach i greu Llynnoedd Bosherston fel rhan o dirwedd ddyluniedig, a phlannwyd miloedd o goed.
Rhagflaenodd y ddau ryfel byd ganrif o ddirywiad yn Stagbwll. Cafodd hanner y stad, tua 6,000 o erwau, ei hawlio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ffurfio Maes Castellmartin ym 1938.
Gwnaeth milwyr a gafodd eu lletya yn Llys Stagbwll dynnu plwm o’r to, a arweiniodd at bydredd sych a gwlyb. Yn drist iawn, cafodd y tŷ ei ddymchwel ym 1963.
Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, cafodd yr hyn oedd yn weddill o'r stad hanesyddol ei dorri'n ddarnau a chafodd y ffermydd eu gwerthu. Aeth yr arfordir, y coedwigodd a’r llynnoedd i ddwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Stagbwll ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.
Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.