Darganfyddwch fwy am Fynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae llawer o chwedlau a mythau diddorol â’u gwreiddiau yn Ysgyryd Fawr a’r cyffiniau. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut cafodd y Mynydd Sanctaidd ei enw a sut ffurfiwyd Ysgyryd Fawr gan gawr.
Ystyr ‘Ysgyryd’ yw ysgwyd neu grynu. Mae’n hawdd gweld o le daeth yr enw hwn – mae tirlithriad enfawr ar ymyl gogleddol y bryn. Mae Ysgyryd Fawr yn dal i ddioddef lleidlifoedd a thirlithriadau bach.
Mae capel San Mihangel, sydd bellach yn adfail, yn eistedd ar gopa Ysgyryd Fawr ac fe’i defnyddiwyd gan Gatholigion yn ystod ar ôl y Diwygiad. Cynhaliwyd gwasanaethau yn y capel tan o leiaf 1680, pan ddywedodd John Arnold o Llanvihangel Court ei fod wedi gweld ‘cant o babyddion yn cwrdd ar ben y bryn, Mynydd San Mihangel, lle cynhelir cyfarfodydd mynych, wyth neu ddeng ngwaith y flwyddyn, weithiau caiff pregethau eu cynnal yno’.
Yn lleol, ‘Y Mynydd Sanctaidd’ yw’r enw ar Ysgyryd Fawr. Gallai’r enw fod wedi tarddu o ddwy ffynhonnell. Y gyntaf yw capel San Mihangel ar y copa, sydd bellach yn adfail, a ddefnyddiwyd gan Gatholigion ar ôl y Diwygiad.
Mae’r ail â’i gwreiddiau mewn chwedloniaeth boblogaidd a’r stori am dirlithriad dramatig ar lethrau gogleddol y mynydd a achoswyd gan ddaeargryn neu fellten adeg croeshoelio Crist.
Yn ôl traddodiad lleol, roedd pridd Ysgyryd Fawr yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon, a chafodd ei gludo ymaith i’w wasgaru ar gaeau, ar eirch ac mewn sylfeini eglwysi. Gwnaed pererindodau i’r copa, yn arbennig ar Ŵyl Mihangel.
Mae stori leol yn adrodd hanes cawr o’r enw Jack O’Kent a gafodd ddadl gyda’r Diafol ynghylch pa un oedd fwyaf, Pen-y-fâl neu Fryniau Malvern y tu draw i’r ffin. Dadl Jack oedd yn gywir (Pen-y-fâl yw’r talaf).
Yn ei ddicter, casglodd y Diafol ffedog enfawr o bridd i’w wasgaru dros Fryniau Malvern i’w gwneud nhw’n dalach. Ond wrth iddo groesi Ysgyryd Fawr, torrodd llinynnau’r ffedog, gan adael y pridd ar Ysgyryd Fawr gan ffurfio’r twyn ar y pen gogleddol.
Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch y Mynyddoedd Duon, lle mae Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchlaw’r dirwedd. Gyda golygfeydd panoramig o’r cefn gwlad cyfagos, mae’r rhostir yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.