Skip to content

Hanes yr Esgob William Morgan

Ymwelydd yn eistedd ar bont fwa fach, yng nghefn gwlad yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy. Mae’n edrych tuag at adeilad carreg sydd â mwg yn dod allan o’r simnai.
Ymwelydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Cafodd yr Esgob William Morgan effaith ar y Gymraeg a’r ffordd y gwnaeth y Cymry ddysgu am y ffydd Gristnogol. Dysgwch sut yr oedd ei holl sgiliau’n ddelfrydol ar gyfer yr her fawr oedd o’i flaen.

Pwy oedd William Morgan? 

Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant tua 1545. Roedd yn ail fab i John ap Morgan a Lowri oedd yn ffermwyr ac yn denantiaid i Maurice Wynn o Gastell Gwydir, ger Llanrwst. Mae’n rhaid bod dipyn o feddwch o’r teulu gan i William gael ei anfon i Gastell Gwydir yn ifanc i gael ei addysgu ochr yn ochr â phlant ei feistr tir.

Ysgolhaig brwd

Yn ddiweddarach addysgwyd William ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan dreulio 10 mlynedd yn astudio i ddod yn Faglor a Meistr yn y Celfyddydau, Baglor a Doethur mewn Diwinyddiaeth. Roedd yn gryn 'sgolor gan iddo hefyd astudio’r ieithoedd Groeg a Hebraeg. 

Y Frenhines Elizabeth I 

Aeth neges o gwmpas y wlad gan Elizabeth I ei bod am i’r Beibl gael ei gyfieithu i’r Gymraeg. Aeth William Morgan ati i wynebu’r her anferth hon a gymerodd 10 mlynedd maith i’w chwblhau.

Erbyn 1588 roedd wedi cwblhau’r gwaith, ac amcangyfrifir bod 1000 o gopïau o’r Beibl hwnnw wedi eu hargraffu. 

Bydd detholiad o’r casgliad rhyfeddol o Feiblau sydd wedi cael eu rhoi i Tŷ Mawr ar hyd y blynyddoedd yn cael eu harddangos yn y ffermdy.  Rydym yn y broses o wneud mwy o waith ymchwil i’r casgliad yma a gwella'r ffordd rydym yn eu dehongli.

Ymwelwyr yn edrych ar gas arddangos yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan yng Nghonwy, Cymru
Ymwelwyr yn edrych ar gas arddangos yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan yng Nghonwy, Cymru | © National Trust Images / Arnhel de Serra

Beibl i bobl Cymru

Nid oedd y Cymry erioed wedi gallu, nac wedi cael, addoli yn eu hiaith eu hunain. Gorchmynnodd y Brenin Harri’r VIII mai dim ond Beiblau Saesneg oedd i gael eu defnyddio yng Nghymru. Cyn hynny, roedd yr holl wasanaethau crefyddol yn cael eu cynnal yn Lladin. 

Roedd y cyfieithiad yn gam pwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg ac yn hanes Cristnogaeth.  Ar ôl Deddfau Uno 1536, gwrthodwyd statws swyddogol i’r iaith Gymraeg ac roedd wedi ei gwahardd o feysydd y gyfraith a gweinyddiaeth. 

Rhan bwysig o fywyd Tuduraidd 

Honnir mai llyfr William Morgan yw’r cyhoeddiad pwysicaf yn y Gymraeg gan ei fod wedi atgyfnerthu statws yr iaith. Ym Mhrydain yn oes y Tuduriaid roedd y Beibl yn rhan bwysig o fywyd bob dydd.

Yn aml, dyma’r unig destun oedd o fewn cyrraedd i fwyafrif y bobl gyffredin.  O ganlyniad i waith William roedd dysgeidiaeth y Beibl o fewn cyrraedd rhwydd i’r Cymry, a chreodd fersiwn safonol o’r Gymraeg ysgrifenedig am y tro cyntaf erioed. 

Rose in the garden on a rainy day at Ty Mawr Wybrnant, Conwy, Wales
Rose in the garden at Ty Mawr Wybrnant | © National Trust Images / Arnhel de Serra

Erbyn y ganrif ganlynol yng Nghymru yr oedd un o’r lefelau uchaf o lythrennedd ymysg y werin yn Ewrop. Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg oedd yn gyfrifol am hyn i raddau helaeth. 

Tŷ William Morgan, Caerdydd

Yn 2019, er mwyn ei anrhydeddu, rhoddwyd enw’r Esgob William Morgan ar un o adeiladau’r llywodraeth. Dan yr enw ‘Tŷ William Morgan’ gallwch ddod o hyd i’r adeilad pwysig hwn ym mhrifddinas Cymru yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd. 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardd Tuduraidd yn Tŷ Mawr Wybrnant
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant 

Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.