Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Byddai gan bob tŷ Tuduraidd ddarn bach o dir a fyddai’n cael ei ddefnyddio fel gardd y tŷ, gan dyfu cnydau bwyd, perlysiau meddyginiaethol, perlysiau i’w rhoi hyd y lloriau a phlanhigion i liwio defnydd er mwyn sicrhau bod yr aelwyd yn cael digon o fwyd ac yn iach trwy’r flwyddyn. Dewch i ymweld â’r ardd Duduraidd yn Nhŷ Mawr Wybrnant a chamu’n ôl i’r gorffennol.
Fe grëwyd llawer o'r gwaith sylfaenol ar gyfer yr ardd fechan arddull Elisabethaidd presennol, gan gynnwys lle eistedd gerllaw, yn 2011 gan y Warden ar y pryd a thirluniwr lleol.
Gyda’r bwriad o wella profiad ymwelwyr ymhellach, mae’r ardd Tuduraidd yn cael ei hadnewyddu gan wirfoddolwyr lleol gyda chefnogaeth staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn darparu canolbwynt arall i ymwelyr.
Fe ddechreuodd y gwaith tyllu yn mis Rhagfyr 2023 gyda'r ymylwaeth newydd yn cael ei osod hefyd (gweler y llun isod).
Mae'r gwaith plannu bellach wedi dechrau yn yr ardd. Mae'r cynllun presennol yn gyson ag ymchwil a wnaed i erddi Tuduraidd, ac mae'r plannu newydd yn cynnwys planhigion y gwyddom a dyfwyd yn y cyfnod hwnnw. Mae ystyriaeth lawn wedi'i roi i geisio apêl synhwyraidd drwy gydol y flwyddyn, tra hefyd yn cynnwys planhigion y cyfeirir atynt yn ysgrifau Shakespeare a’r Beibl, a thrwy hynny ffurfio cysylltiad ychwanegol â hanes y tŷ a’i ddeiliaid.
Mae’r border yma wedi’i rhannu’n chwe gwely llysiau, sy’n cael eu plannu mewn cylchdro yn unol ag arfer y Tuduriaid. Mae llysiau’n cynnwys cêl y ffermwr, ffa ceffyl o’r oes haearn, cennin, betysen a riwbob.
Mae'r border yma'n cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu perlysiau a ddefnyddir o gwmpas y tŷ. Roedd rhai o'r rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer golchi a startsio dillad - yn enwedig sebonlys a phidyn y gog - a lliwio ffabrig; mae gwreiddiau llysiau'r-gwrid yn cynhyrchu llifyn porffor/coch ac mae melynog y waun yn darparu lliw melyn. Roedd planhigion sy'n arogli'n felys, fel lafant, tansi ac erwain hefyd yn cael eu tyfu i'r diben o wasgaru ar loriau, gan helpu i guddio arogl cartrefi Tuduraidd tra'n aml hefyd yn atal chwain a phlâu eraill.
Mae’r ddau border fechan yn cynnwys ‘perlysiau addurno’ – y rhai sy’n dod i mewn i’r tŷ – a’r rhai a ddefnyddir ar gyfer blodeuglwm. Mae’r planhigion yn cynnwys hocysen, troed y glomen a melyn yr ŷd - ac amryw o ‘flodau melyn’ fel pincod a chlustog Fair.
Mae'r chwe gwely canolog yn cael eu plannu mewn patrymau geometrig gyda pherlysiau coginio, meddyginiaethol, cosmetig a hudolus - gan gynnwys saets, y feddyges las a chribau San Ffraid - a defnyddiwyd llawer ohonynt, yn ôl y 'Doctrine of Signatues', i drin afiechyd y rhannau hynny o'r corff yr oedd y planhigion yn edrych fwyaf tebyg i. Mae llysiau’r ysgyfaint yn un amlwg, tra bod cyfardwf, er enghraifft, hefyd yn cael ei adnabod fel ‘knitbone’ a ‘boneset’ yn Saesneg. Roedd llawer o blanhigion, fodd bynnag, yn cael eu defnyddio at lu o wahanol ddibenion, ac yn ymarferol gallent ymddangos ym mron pob categori.
Byddwn yn darparu diweddariadau tymhorol o’r ardd yma ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.