Darganfyddwch fwy yn Whitffordd a Gogledd Gŵyr
Dysgwch sut i gyrraedd Whitffordd a Gogledd Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darn bach o dir ar arfordir Gogledd Gŵyr yw morfa Cwm Ivy. Cafodd ei hawlio o’r môr i’w ddefnyddio fel tir ffermio yn yr 17eg ganrif a’i amddiffyn rhag y môr gan forglawdd a dyfodd mewn maint a chryfder dros y blynyddoedd. Yn 2014 torrodd y morglawdd ac mae'r môr nawr yn ail-feddiannu'r tir, gan drawsnewid cors dŵr croyw Cwm Ivy yn forfa heli.
Cyflwynodd ein hadroddiad 2015, Glannau Ansefydlog, un neges glir: fel cenedl, allwn ni ddim parhau i adeiladu i amddiffyn ein harfordir. Mewn safleoedd fel Cwm Ivy, felly, dydyn ni ddim bellach yn ceisio herio byd natur drwy ddal y llanw yn ôl. Yn hytrach rydyn ni'n gadael i natur ddilyn ei chwrs.
Yn Nhachwedd 2013, roedd morglawdd Cwm Ivy yn dangos ôl traul. Ar ôl cyfnod o law trwm llenwodd y nant fewndirol i’r fath raddau fel na allai’r llifddor, a gynlluniwyd i ddraenio’r gors, ryddhau’r dŵr yn ddigon cyflym.
Fe wnaeth holl bwysau’r dŵr greu twll bach o dan y wal. Gwaethygodd pethau dros y gaeaf canlynol wrth i stormydd, glaw, llanw uchel a nerth y môr ddechrau gwneud y twll yn fwy gan adael cryn dipyn o ddŵr môr i mewn i’r gors dŵr croyw.
Ym mis Awst 2014, yn dilyn stormydd yr haf, methodd y morglawdd yn llwyr a daeth ei gyfnod fel amddiffynfa i ben, i bob pwrpas.
Bron yn syth ar ôl i'r morglawdd dorri, gwelwyd newid sylfaenol yn y llystyfiant. Dechreuodd wair y tir amaeth wywo o fewn ychydig ddyddiau, a chollodd y coed eu dail yn gyflym, gan adael dim ond coed marw erbyn gwanwyn 2015.
Oedd hyn yn broblem? Doedd y lle ddim yn edrych yn arbennig o hardd o gymharu â’r gwyrddni ffrwythlon oedd yn arfer bod yno. Ond er mor salw oedd y newid, dim ond rhywbeth dros dro oedd hyn, tan i blanhigion y forfa heli ddechrau gwreiddio.
Erbyn mis Mawrth 2015, roedd planhigion y forfa heli yn dechrau ymwreiddio unwaith eto; morlwyau bregus, rhywogaethau Salicorina (sampier), helys, clustog Fair a’r troellig arfor. Erbyn mis Mehefin 2015 roedd y forfa gyfan yn fôr o wyrdd ac yn forfa heli iach, doreithiog.
Dair blynedd ers i’r morglawdd chwalu, mae morfa Cwm Ivy wedi’i thrawsnewid o’i chyfnod fel tir pori. Erbyn gaeaf 2017, roedd gennym forfa heli lanwol hollol weithredol, sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt.
Mae’r llanw’n cludo maetholion, pysgod ac infertebratau i forfa Cwm Ivy, sy’n wledd i amrywiaeth o adar. Cadwch olwg am:
Y crehyrod bach yw’r rhywogaeth amlycaf ar y forfa, diolch i’w plu gwyn llachar. Maen nhw i’w gweld yma bob dydd yn chwilota’n amyneddgar mewn pyllau bas am bysgod sydd wedi’u dal gan y distyll, ochr yn ochr â’u cefnder mwy o faint, y crëyr glas.
Os ydych chi’n ddigon lwcus, fe allech weld fflach o las trydanol; glas y dorlan yn cwrso ei ysglyfaeth. Mae’n well gan yr adar hyn ddŵr araf lle gallant hela pysgod a phryfed y dŵr.
Mae’r gornchwiglen i’w gweld yma drwy gydol y flwyddyn. Clustfeiniwch am ei chri ‘pî-wit’ unigryw. Mae nifer fechan o’r adar hyn yn bridio yma hefyd ac yn dodwy eu hwyau ar y ddaear ar gyrion y forfa.
Mae dwy guddfan adar ar gael – cuddfan Cheriton a chuddfan Monterey, y naill ochr i’r forfa. Dyma’r llefydd perffaith i fwynhau golygfeydd a synau’r forfa newidiol hon, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol ehangach Whitffordd.
Dysgwch sut i gyrraedd Whitffordd a Gogledd Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.