Skip to content

Y Pwyllgor - bwrdd cynghori Cymru

Five Y Pwyllgor members gather at Dinefwr
Aelodau'r Pwyllgor yn cyfarfod yn Dinefwr | © National Trust Cymru

Mae'n bleser gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol benodi aelodau newydd i ymuno â'r Pwyllgor, ei bwrdd cynghori ar gyfer Cymru. Dewch i ddysgu mwy am rôl Y Pwyllgor a'i aelodau.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 gan bobl a gredai fod angen sylfaenol arnom oll am fynediad i natur, gofod a harddwch, a bod angen gwarchod lleoedd arbennig.

Mae'r grŵp cynghori, Y Pwyllgor, yn hanfodol i'n gwaith i gyflawni hyn yng Nghymru heddiw.

Beth mae bwrdd cynghori Cymru, Y Pwyllgor yn ei wneud?

Mae'r Pwyllgor yn un o ddau grŵp cynghori gwlad a phedwar rhanbarth ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae gan y Pwyllgor hyd at naw aelod sy'n cynghori, yn cefnogi ac yn herio Cyfarwyddwr Cymru a’i thîm i ddatblygu eu meddwl ar flaenoriaethau, themâu neu brosiectau strategol.

Mae aelodau’r grŵp yn dod â’u gwybodaeth am Gymru, yn ogystal â mewnwelediadau, rhwydweithiau ac arloesedd gan sefydliadau a sectorau allanol i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i edrych ar ol llefydd arbennig, i bawb, am byth.  

Angerdd ein pobl a’n cefnogwyr sy’n gwneud yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lle arbennig i weithio a gwirfoddoli. Pobl yw'r allwedd i'n llwyddiant.

Dewch i gwrdd ag aelodau'r Pwyllgor

Cadeirydd

Jamie Seaton

Mae gan Jamie radd BA mewn Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg o Brifysgol Birmingham (1977), a chymhwyster MA llawer mwy diweddar mewn Ysgrifennu Creadigol (Barddoniaeth) o’r Royal Holloway (2019).

Yn 1978 symudodd ef a’i ddarpar wraig, Jessica i Sir Gaerfyrddin.

O 1978 i 1997 dyluniodd ddillad gweu i gwmni a sylfaenwyd gan y cwpwl, a oedd yn gwerthu’n rhyngwladol. Yn 1997 gwnaethant sefydlu’r cwmni dillad a dillad cartref, Toast, lle bu Jamie yn Gyfarwyddwr Dylunio/Creadigol. Gwnaethant werthu'r cwmni yn 2018. Nawr, ymysg pethau eraill, maent yn rhedeg fferm atgynhyrchiol gymysg yn Sir Benfro.

An image of Y Pwyllgor member Jamie Seaton
Jamie Seaton - Aelod o'r Pwyllgor | © National Trust Cymru
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.