Skip to content
Prosiect

Gwella mynediad i goedlannau yn Ysbyty Ifan

Coed Hafod Las
Mae Coed Hafod Las yn un o dair coedlan yn Ysbyty Ifan a fydd yn gweld gwelliannau o ran mynediad ar gyfer y gymuned leol | © National Trust Images

Mae prosiect newydd a chyffrous wedi dechrau i wneud coedlannau ar ystâd Ysbyty Ifan (Eryri) yn fwy hygyrch i bobl eu mwynhau tra hefyd yn gwella bioamrywiaeth.

Digwyddiadau i gymryd rhan yn y gwaith...

Sesiynau plannu coed (Chwefror - Ebrill 2025)

Dewch i’n helpu ni i adfer coetir hynafol ger Ysbyty Ifan drwy blannu coed brodorol yn lle rhai conwydd wrth i ni wella ein coetiroedd ar gyfer natur a phobl fel rhan o raglen Coedwig Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â lewis.williams@nationaltrust.org.uk am ragor o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb os gwelwch yn dda.

Y Prosiect

Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG)

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), cynllun grant sy'n darparu cyllid i greu, adfer a gwella coetiroedd. Mae’n rhan o’r rhaglen Coedwig Cenedlaethol i Gymru. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Y bwriad

Ein gweledigaeth yw coedlannau hygyrch iach sydd wrth galon bywyd cymunedol.

Un nod allweddol yw darparu mynediad i fyd natur a bydd y prosiect yn agor tair coedlan sydd yn anhygyrch yn bresennol ar ystâd Ysbyty i'r gymuned leol eu mwynhau.

Y Coedlannau

Mae'r prosiect yn ffocysu ar dair coedlan: 

Coed Blaen y Coed;

Coed Hafod Las;

a Coed Gwernouau.

Gwella mynediad i'r gymuned leol

Mae cysylltiad â'r awyr agored yn hanfodol i helpu pobl i fyw bywydau mwy iach a darparu ffyrdd newydd o gysylltu â natur. Ar hyn o bryd mae mynediad i'r coedlannau yn wael, ond bydd y prosiect yma'n helpu i ddod â'r coedlannau yma o dan reolaeth hirdymor ffafriol a byddem yn gallu cyflawni ein hamcanion ar gyfer iechyd y coedlannau a'r cymunedau y maent yn bodoli ynddynt.

Beth sydd yn mynd i ddigwydd? 

Trwy weithio gyda'r gymuned, bydd gofodau ar gyfer hamdden, myfyrio a dysgu yn cael eu creu yn ogystal â thaith gerdded treftadaeth leol newydd - yn cysylltu'r ddwy ochr o bentref Ysbyty Ifan.

Bydd y prosiect hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i gynnwys pobl yn ein gwaith cadwraeth, i adeiladu a chryfhau cysylltiadau â’r coedlannau ac i gynyddu dealltwriaeth o’n treftadaeth naturiol werthfawr a sut i’w adfer.

Gwella bioamrywiaeth ar gyfer natur a phobl 

Mae gwella mynediad i'r coedlannau yma'n gyfle hefyd i ni wella bioamrywiaeth - a fydd yn gwella'r profiad i bobl gysylltu â natur.

Mae adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) yn llydanddail yn dod â buddion amgylcheddol cysylltiedig ar gyfer cynefinoedd, bioamrywiaeth, ansawdd pridd a dŵr – gan greu tirwedd fwy gwydn ac iach.

Bydd rhywogaethau allweddol fel barcudiaid coch, bele’r coed, adar coetir prin fel y gwybedog brith, tingoch a thelor y coed, cennau coedwigoedd law a bryoffytau yn ffynnu a bydd mwy o bobl yn defnyddio’r coetiroedd ar gyfer hamdden.

Bydd y gymuned leol yn chwarae rhan allweddol wrth blannu coed newydd ar y safleoedd.

Beth sydd wedi digwydd hyd yma

Mehefin 2024

Cais llwyddiannus

Ym mis Mehefin 2024 roedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn llwyddiannus yn eu cais am gyllid TWIG i wella mynediad i dri choetir ar Ystâd Ysbyty Ifan.

Ein partneriaid

Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.