Yr ystafell de enwog Tu Hwnt i'r Bont i gael ei doriad cyntaf sylweddol ers degawdau
Mae ystafell de adnabyddus yng Ngogledd Cymru ar fin cael ei dorriad mawr cyntaf ers 20 mlynedd.
Mae ystafell de adnabyddus yng Ngogledd Cymru ar fin cael ei dorriad mawr cyntaf ers 20 mlynedd.
Mae Tu Hwnt i'r Bont, sy’n ystafell de rhestredig gradd II yn Llanrwst, Conwy, yn adnabyddus am gael ei orchuddio gan y planhigyn dringwr fflamgoch sydd yn troi o fod yn wyrdd ym misoedd y gwanwyn a’r haf i fod yn goch tywyll wrth i’r hydref nesáu, cyn cwympo.
Ond mae arolwg diweddar gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sydd yn gyfrifol am do a waliau allanol yr adeilad 15fed ganrif, wedi datgelu bod planhigyn eiconig yr ystafell de angen tociad sylweddol. Mae asesiad diweddar o ran fechan o'r to wedi datgelu treiddiad gan y planhigion ac ychydig o ddifrod i rai llechi, sydd wedi'u gosod gyda phegiau pren.
Mae dros 20 mlynedd wedi bod ers y gwaith mawr diwethaf i dynnu llystyfiant oddi ar yr adeilad, a dros amser mae haen drwchus wedi ffurfio’n raddol ar y to gan ychwanegu mwy o bwysau ar y llechi bregus. Mae danadl a rhywogaethau goresgynnol megis jack y neidiwr (himalayan bolsom) wedi cydio ar y to hefyd.
Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru - Eryri: "Rydym yn cydnabod bod y planhigyn dringwr fflamgoch yn nodwedd eiconig o Tu Hwnt i'r Bont, yn enwedig pan fydd ei ddail yn troi'n goch hyfryd yn yr hydref. Fodd bynnag, mae'r gwaith sydd yn mynd i gael ei gynnal ym mis Ionawr, sy'n gylchol ac y mae'n rhaid ei wneud o bryd i'w gilydd, yn hanfodol er mwyn sicrhau strwythur y to ac i wneud unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol i ddiogelu'r adeilad rhestredig yma.
"Bydd y gwaith yn golygu tynnu’r dringwr fflamgoch a llystyfiant eraill dim ond lle y maent yn gorchuddio'r to a’r ddwy simnai. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw cymaint o'r planhigyn gwydn yma â phosib sy'n amgylchynu'r ffenestri gromen.”
Bydd y gwaith, sydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025, yn gweld defnydd o beiriant cherry picker a sgaffaldiau ac a fydd yn cymryd o gwmpas dau ddiwrnod i’w gwblhau.
Mae’r brydles ar gyfer yr eiddo ar werth ar hyn o bryd gyda St David's Commercial.