Skip to content

Ein hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth

Visitors exploring the house at Christmas at Avebury Manor, Wiltshire
Ymwelwyr yn archwilio Maenor Avebury yn Swydd Wiltshire | © National Trust Images/James Dobson

Rydym wedi ymrwymo i fodloni anghenion a disgwyliadau cymdeithas amrywiol. Darllenwch beth yr ydym yn ei wneud i greu amgylchedd cynhwysol, hygyrch a chroesawus i’n cefnogwyr, staff a gwirfoddolwyr.

Os ydych yn aelod, cefnogwr, gwirfoddolwr neu aelod o staff, mae’n bwysig i bawb gael profiad yr un mor gadarnhaol o’n gwaith ac yn teimlo bod croeso ar gael. Rydym yn galw’r gwaith hwn yn Croeso i Bawb ac mae pob rhan o’r sefydliad yn gyfrifol amdano.

Rydym wedi creu’r Adroddiad Cynnydd Cynhwysiant ac Amrywiaeth i rannu rhywfaint o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i gysylltu â’r rhai sydd â lleiaf o gynrychiolaeth ar hyn o bryd ymhlith ein staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhannu rhywfaint o’r cynnydd yr ydym yn ei wneud a’r effaith y mae’n ei gael.

Byddwn yn cyhoeddi’r diweddaraf am ein cynnydd bob dwy flynedd, felly gall unrhyw un olrhain y cynnydd a’n dal i gyfri am gyflawni ein hymrwymiadau.

Mae gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bob amser yn cael ei lywio gan ein diben elusennol, sy’n rhoi dyletswydd arnom i hyrwyddo cadwraeth natur, harddwch a hanes, er budd y genedl gyfan. Dim ond drwy adlewyrchu’r gwledydd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu y gallwn ni wneud hynny.

Dyfyniad gan Hilary McGradyYmddiriedolaeth Genedlaethol Cyfarwyddwr Cyffredinol

Ein gwaith dros gefnogwyr

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn profi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy'r lleoliadau sydd dan ein gofal. Rydym yn gweithio’n galed i gynnig profiadau sy’n groesawus, hygyrch a pherthnasol i ymwelwyr presennol, yn ogystal â chynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol.

Mae rhai o’r pethau yr ydym yn eu gwneud i wneud i hyn ddigwydd yn cynnwys:

  • archwilio dulliau teithio newydd a gwell i helpu mwy o bobl i gyrraedd y lleoedd dan ein gofal
  • gwella hygyrchedd mwy na 150 o fannau ers 2021, yn ogystal â datblygu pecyn offer gyda Dementia Adventure i helpu lleoedd i ddod yn fwy cynhwysol i bobl s’n byw â dementia
  • datblygu a rhannu hanesion cyfoethocach, llawnach am y mannau dan ein gofal a’r bobl fu’n byw a gweithio ynddynt
  • profi sut y gallwn gyrraedd cynulleidfaoedd iau trwy greu Canolfannau Plant a Phobl Ifanc mewn 19 o’r lleoedd dan ein gofal
  • ariannu hyfforddiant arweinyddion teithiau i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol i helpu i daclo diffyg cydraddoldeb o ran mynediad i’r awyr agored
  • sicrhau bod ein cyfathrebiadau a’n hysbysebion yn hygyrch i bawb ac yn cyrraedd y grwpiau sydd leiaf ymwybodol ar hyn o bryd o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
A volunteer and a member of staff tending the garden at Rainham Hall, with the trees starting to bud around them and a view of the hall in the distance.
Gwirfoddoli yn yr ardd ym Mhlas Rainham | © National Trust Images/Rob Stothard

Ein gwaith i staff a gwirfoddolwyr

Mae arnom eisiau i’n staff a’n gwirfoddolwyr adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn lle cynhwysol i weithio a gwirfoddoli.

Rydym yn casglu data staff am oedran, anabledd, ethnigrwydd, rhyw, hunaniaeth rywiol, crefydd a chred, a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn gweithio i wella ein data am hunaniaeth rywiol a chefndir cymdeithasol-economaidd a byddwn yn rhannu hyn mewn adroddiad ar gynnydd yn y dyfodol.

Ar sail y staff a wnaeth rannu data amrywiaeth fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2023 (nid yw’r niferoedd yma’n cynnwys y rhai sydd wedi nodi ‘dewis peidio â dweud’ neu heb rannu eu data):

  • 42.3 oedd oedran ein staff ar gyfartaledd
  • mae 3.8% o’n staff yn anabl
  • mae 3% o’n staff yn bobl o liw
  • mae 6.9% o’n staff yn uniaethu yn LHDTC+
  • mae 56.6% o’n staff yn fenywaidd
  • mae 27.8% o’n staff yn wrywaidd.

Mae amrywiaeth ein staff yn cynyddu’n raddol yn flynyddol, ond mae gennym lawer mwy i’w wneud pan ddaw’n fater o recriwtio – yn neilltuol o ran ethnigrwydd ac anabledd.

Mae rhai o’r pethau yr ydym yn eu gwneud i wneud i hyn ddigwydd yn cynnwys:

  • cefnogi cynnydd gyrfa pobl o liw trwy raglen Cyflymydd Talent
  • cyflwyno’r rhaglen Creu Diwylliant Cynhwysol i arweinwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth, o’n Tîm Gweithredol i dimau arwain eiddo
  • gwrando ar brofiadau pobl a’u barn trwy ein harolwg staff a gwirfoddolwyr blynyddol
  • cynyddu amrywiaeth ymgeiswyr a chynigion swyddi trwy ddarparu recriwtio ar sail cryfderau i rai mathau o swyddi
  • cefnogi ein tair rhwydwaith cynhwysiant, LHDTC+, Cydraddoldeb Hiliol a Gallu Gweithio, sy’n chwarae rhan allweddol wrth wella ein diwylliant mewnol.

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhyw ac Amrywiaeth

Rydym yn parhau i gyhoeddi ein Hadroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau gyda phwyslais ar leihau’r bwlch. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cynyddu’r data staff sydd gennym ac rydym yn awr hefyd yn gallu cyhoeddi ein bylchau cyflog ar gyfer anabledd, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol.


Ein huchelgais yw ein bod yn gwella a chynyddu’r budd yr ydym yn ei gynnig trwy gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn ymweld â ni ac yn ein cefnogi. Byddwn yn parhau i wrando, dysgu a rhannu ein cynnydd.

Cysylltwch â ni

E-bost

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth, anfonwch e-bost atom ni.

everyonewelcome@nationaltrust.org.uk

Efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd

View of the ruins of Corfe Castle, lit in golden autumn sunlight, with a hill in the background
Erthygl
Erthygl

Am yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Heddiw 

Dysgwch ragor am ein gwaddol, pobl a gwerthoedd fel elusen gadwraeth. Rydym yn diogelu mannau hanesyddol a mannau gwyrdd tra’n eu hagor i bawb, am byth. Saesneg yn unig.

Family walking at Fell Foot in winter, Cumbria
Erthygl
Erthygl

I bawb, am byth: ein strategaeth hyd 2025 

Darllenwch am ein strategaeth 'I bawb, am byth' yma yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a fydd yn mynd â’r sefydliad hyd 2025. Saesneg yn unig.

Volunteers laugh as they walk at Tyntesfield, Somerset
Erthygl
Erthygl

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhyw ac Amrywiaeth 

Darllenwch ein Hadroddiad Bwlch Cyflog Rhyw ac Amrywiaeth diweddaraf, cewch weld sut yr ydym yn cymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol a chael gwybod beth yr ydym yn ei wneud i gau’r bylchau. Saesneg yn unig.

PDF
PDF

Cynhwysiant ac Amrywiaeth yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Yn 2022 fe wnaethom amlinellu sut y byddem yn creu diwylliant sy’n cydnabod, parchu a rhoi gwerth ar wahaniaeth. Dysgwch ragor am ein hymrwymiadau Croeso i Bawb a gweld sut y byddwn yn mesur ein cynnydd. Saesneg yn unig.

A close up of National Trust staff and volunteers at Birmingham Pride 2022
Erthygl
Erthygl

Pride, y gymuned LHDTC+ a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Yn 2023, fe wnaethom gymryd rhan mewn dros 20 o ddigwyddiadau Pride ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Edrychwch beth wnaethom ni i gefnogi ein cydweithwyr LHDTC+ yn ystod mis Pride a thu hwnt. Saesneg yn unig.

Family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria
Erthygl
Erthygl

Mynediad i bawb 

Rydym yn croesawu ymwelwyr anabl, cymdeithion, gofalwyr a chŵn cymorth. Dysgwch am ein cerdyn Cydymaith Hanfodol i unigolion a’r Tocyn Cysylltiol i grwpiau. Saesneg yn unig.