Skip to content

Ffotograffiaeth a ffilmio yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt

Professional photographer filming at Brimham Rocks
Mae’r llefydd sydd yn ein gofal yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ffotograffig | © J Shepherd

Gyda fistâu crand, adeiladau hanesyddol a golygfeydd panoramig, mae’r llefydd sydd yn ein gofal yn aml yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer prosiectau ffotograffiaeth a ffilmio.

Tynnu lluniau at ddefnydd personol 

Mae croeso i chi dynnu lluniau neu ffilmio at ddefnydd preifat, anfasnachol yn y rhan fwyaf o’r llefydd sydd yn ein gofal. Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw luniau neu ddelweddau gael eu defnyddio i wneud arian neu hyrwyddo busnes, neu gael eu rhoi i lyfrgelloedd neu asiantaethau ffotograffiaeth. 

Gall ymwelwyr dynnu lluniau neu ffilmio yn yr awyr agored, ond mae tynnu lluniau neu ffilmio dan do yn dibynnu ar yr eiddo rydych chi’n ymweld ag ef.  Cofiwch ofyn wrth y staff neu wirfoddolwyr yn yr eiddo cyn defnyddio eich camera dan do. Ni chewch ddefnyddio’r fflach na thrybedd o dan do.  

Cyn cael mynediad i dynnu lluniau neu wneud ffilmiau at unrhyw ddiben arall, rhaid cael cytundeb gan y tîm cywir.  

Priodasau, newyddion a radio lleol

Mae ffotograffiaeth ar gyfer priodasau neu ddyweddiadau a newyddion lleol yn cael eu trin fesul eiddo. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol cyn eich prosiect i gael caniatâd a thalu unrhyw ffioedd sy’n ddyledus.

Ffotograffiaeth a ffilmio proffesiynol 

Rydym yn gofalu am amrywiaeth o leoliadau unigryw sydd ar gael i’w llogi.  Mae’r wefan lleoliadau yn galluogi ffotograffwyr i chwilio am safleoedd hanesyddol-ddilys y gallwch eu defnyddio i ffilmio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae’r arian sy’n cael ei godi drwy ffioedd lleoliad yn helpu i gefnogi gwaith cadwraeth yn y lleoliad a ddefnyddiwyd i ffilmio, gan ein helpu i barhau â’n gwaith o ofalu am natur, harddwch a hanes i genedlaethau’r dyfodol.  

Ni chewch ffilmio neu dynnu lluniau mewn llefydd rydym yn gofalu amdanynt heb gontract sydd wedi’i lofnodi gan y ddau barti. 

Rhaid i bob cytundeb proffesiynol fynd drwy’r Swyddfa Ffilmio a Lleoliadau. Cysylltwch â ni drwy e-bostio filmoffice@nationaltrust.org.uk

Dylanwadwyr 

Rhaid i unrhyw ddylanwadwr sydd eisiau creu cynnwys y telir amdano neu gynnwys rhodd ar y cyfryngau cymdeithasol archebu ymlaen llaw drwy’r Swyddfa Ffilmio a Lleoliadau.  Cysylltwch â ni drwy e-bostio filmoffice@nationaltrust.org.uk

Gweithgarwch masnachol arall 

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i drafod eich prosiect. Rhaid i rai mathau o weithgareddau gael eu trefnu ymlaen llaw drwy ein Swyddfa Ffilmio a Lleoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys, ymhlith pethau eraill: 

  • Hysbysebion ar-lein neu deledu 

  • Fideos cerddoriaeth 

  • Lluniau ffasiwn 

  • Lluniau ar gyfer llyfrau neu bapurau newydd 

  • Gwerthwyr ceir sy’n chwilio am gefnlen 

  • Gweithgarwch bwrdd croeso/twristiaeth 

  • Busnesau lleol sydd eisiau hysbysebu eu cynhyrchion a gwasanaethau 

  • Asiantau gwerthu tai 

  • Ffilmiau hyrwyddo 

Defnyddio dronau 

Dydyn ni ddim yn caniatáu defnydd anawdurdodedig o ddronau ar unrhyw dir, eiddo neu leoliadau rydym yn gofalu amdanynt. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.  

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A footpath alongside a wire fence through a moody landscape with hills in the distance
Erthygl
Erthygl

Hedfan dronau yn ein lleoliadau 

Mae pob math o weithgaredd awyr uwchben ein safleoedd wedi’i wahardd oni cheir caniatâd penodol, yn unol ag is-ddeddf gyfredol.