I bawb, am byth
Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.
Mae 2025 yn nodi ein pen-blwydd yn 130 oed. Ym mhob pennod yn ein hanes, rydym wedi addasu i’r hyn sydd ei angen ar y pryd hwnnw. Nawr, mae’n amser am weledigaeth sy’n mynd â ni i’r dyfodol. Mae ein strategaeth newydd yn gosod allan ein nodau a’n huchelgeisiau ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt.
Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gwrando ar dros 70,000 o bobl – ein partneriaid, aelodau, ymwelwyr, gwirfoddolwyr, staff ond hefyd pobl nad oedden ni erioed wedi cwrdd â hwy o’r blaen, i ofyn, ‘sut allwn ni eich gwasanaethu chi?’
Y strategaeth hon yw ffrwyth y sgyrsiau hynny. Mae’n dod gan bobl o’n tair gwlad. Ac rydym ni’n ei rhannu fel gwahoddiad i bawb ymuno â ni yn y degawd tyngedfennol nesaf o’n cenhadaeth.
Mae aelodaeth ac ymweliadau â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn parhau i fod yn sylfaen i’n holl waith, a byddwn yn parhau i ymdrechu i sicrhau gwell ansawdd, mwy o fwynhad a mwy o resymau i ddychwelyd. Bydd hynny’n parhau ac yn tyfu drwy’r strategaeth hon hefyd.
Yn greiddiol iddi, mae gan y strategaeth dri nod uchelgeisiol ar gyfer 2050 y byddwn yn gweithio tuag atynt dros y degawd nesaf:
adfer byd natur – nid dim ond ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond ym mhobman;
rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at fyd natur, harddwch a hanes;
ysbrydoli miliynau yn fwy o bobl i ofalu ac i weithredu.
Byddwn yn helpu pobl i helpu byd natur – a bydd byd natur yn helpu pawb ohonom.
Mae pawb angen natur i oroesi. Mae byd natur yn y DU mewn dyfroedd dyfnion, ond gallwn helpu i’w adfer drwy weithio gyda’n gilydd. Byddwn yn canolbwyntio ar ymdrechion lleol i symud ymlaen tuag at y targed byd-eang o amddiffyn 30% o dir. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi buddiannau hirdymor byd natur a phobl gyntaf yn ein penderfyniadau. A byddwn yn helpu miliynau o rai eraill, a’r rhai sy’n eu gwasanaethu, i wneud yr un fath.
Rydym eisoes wedi gweithio ar arfordir Durham lle mae gwastraff o’r hen byllau wedi ei gyfnewid am draethau euraidd. Mewn mannau eraill o amgylch y wlad, rydym yn diogelu mawndiroedd y genedl sy’n dal 2% o’r carbon yn y DU. Dyma ddwy enghraifft yn unig o’r gwaith rydym ni eisoes yn ei wneud er mwyn adfer byd natur, ond byddwn yn gwneud hyd yn oed yn fwy drwy’r strategaeth hon.
Erbyn 2035 byddwn:
gweithio gydag eraill ac ar y tir yn ein gofal i greu 250,000 hectar o dir ffyniannus, llawn natur;
yn dylanwadu ac ysbrydoli cymdeithas i ofalu ar gyfer dyfodol sy’n fwy positif o ran yr hinsawdd.
Erbyn 2050 rydym yn anelu i:
fod wedi galluogi byd natur i ffynnu ac addasu safleoedd o bwys er mwyn cwrdd â heriau newid hinsawdd;
fod wedi chwarae ein rhan yn y nod o gael y DU i gyrraedd sero net a chreu economi a chymdeithas gydnerth sy’n bositif o ran yr hinsawdd.
Roedd y llefydd rydym ni’n gofalu amdanynt unwaith dim ond yn cael eu mwynhau gan ychydig, ond bellach rydym yn croesawu dros 150 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn. Fodd bynnag, does gan lawer o bobl ddim digon o fyd natur yn eu bywydau i fod yn iach, neu ddigon o brofiad diwylliannol i deimlo eu bod o werth. Mae’n rhaid i fyd natur a diwylliant ffynnu y tu hwnt i’r llefydd rydym yn berchen arnynt – mewn trefi a dinasoedd, mewn cymunedau arfordirol a phentrefi.
Mae ein gwaith cyfredol mewn dinasoedd yn cynnwys Traphont Castlefield – pont reilffordd hanesyddol Gradd II yng nghanol Manceinion yr ydym wedi helpu i’w thrawsnewid yn ‘ardd yn yr awyr’. Ac rydym wedi gwahodd cymunedau lleol i ddathlu digwyddiadau sy’n bwysig iddynt hwy, megis Holi a Diwali, yn y llefydd sydd yn ein gofal.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y tai, y casgliadau a’r gerddi yr ydym yn gofalu amdanynt, a’u gwarchod, fel eu bod yn darparu profiadau cyfoethog a deniadol i bawb sy’n ymweld. A byddwn yn parhau i droi’r tai mwyaf rhyfeddol ac arwyddocaol yn hanesyddol, yn gyrchfannau diwylliannol y mae’n rhaid ymweld â nhw, gyda gwell dehongliad a chyflwyniad.
Mae cynyddu mynediad yn golygu bod yn rhan o rywbeth y gall pawb gael budd ohono. Mae’n ymwneud â chael gwared ar rwystrau ymarferol megis pellter, yn ogystal â rhwystrau emosiynol megis perthyn. Oherwydd mae byd natur, harddwch a hanes yn perthyn i bawb.
Erbyn 2035 byddwn:
yn gweithio gydag eraill i ddod â mwy o fyd natur a threftadaeth i’r llefydd lle mae pobl yn byw;
yn sicrhau y gall mwy o bobl yn ymgysylltu gyda byd natur, harddwch a hanes ar eu telerau eu hunain;
yn darparu hawl mwy cyfartal i gael mynediad at fyd natur, harddwch a hanes, fel y gall mwy o bobl elwa.
Erbyn 2050 rydym yn anelu i:
alluogi pobl i fwynhau mynediad byd-eang i lefydd hanesyddol a naturiol o safon uchel, ac yn teimlo’r buddion positif yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
creu mwy o ymdeimlad o berthyn a chysylltiad gyda threftadaeth (y gorffennol, y presennol a’r dyfodol) a’r gallu i werthfawrogi treftadaeth eraill yn well.
Allwn ni ddim cyflawni’r ddau nod cyntaf ar ein pen ein hunain – Bydd angen i filiynau o bobl ymuno gyda ni.
Fel sefydliad aelodaeth mwyaf Ewrop, sydd wedi’i gefnogi gan lu anferth o wirfoddolwyr, rydym mewn sefyllfa unigryw i fod yn ysbrydoli a gyrru newid. Rydym angen ysbrydoli a galluogi pobl i ofalu am fyd natur a harddwch ar raddfa mwy nag erioed o’r blaen, yn eu bywyd o ddydd i ddydd ac yn eu cymunedau fel ei gilydd.
Rydym angen rhoi hwb i ymdrechion codi arian ac eiriolaeth, er mwyn sicrhau bod rhoi yn cyd-fynd gyda’r pryder cynyddol am fyd natur a’r hinsawdd. A byddwn angen sicrhau bod gan blant a phobl ifanc yr arfau i fod yn gadwraethwyr y dyfodol. Rydym eisiau iddynt hwy, a chenedlaethau’r dyfodol, fod yn etifeddu ac yn byw mewn byd sy’n ffynnu.
Erbyn 2035 byddwn:
yn gweithio gydag eraill i helpu mwy o bobl, yn arbennig pobl ifanc a phlant, allu teimlo bod gofalu am fyd natur a threftadaeth yn rhywbeth iddynt hwy;
galluogi pawb i brofi byd natur, harddwch a hanes ac i ofalu am y byd sydd o’u cwmpas;
gweithio gyda busnesau, llywodraeth ac elusennau eraill er mwyn gwneud newid cadarnhaol ledled y DU ar gyfer byd natur a threftadaeth ddiwylliannol.
Erbyn 2050 byddwn yn anelu i sicrhau:
bod o leiaf hanner y boblogaeth yn dweud bod byd natur, harddwch a hanes yn bethau sy’n bwysig iddynt;
y gall pawb gael mwy o fyd natur, harddwch a hanes yn eu bywydau;
bod ein cenhedloedd yn fodlon buddsoddi mewn byd natur a diwylliant er eu mwyn hwy eu hunain ac er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
Er mwyn cyflawni’r nodau rydym wedi eu cynnwys yn ein strategaeth newydd, byddwn angen cael hyd yn oed mwy o wybodaeth a chymryd mantais o adnodau, technolegau a dulliau newydd o ofalu am fyd natur a bywyd gwyllt.
Rydym angen gallu gweithio llawer mwy mewn partneriaeth gydag eraill. A defnyddio technolegau newydd i ofalu am y byd o’u cwmpas. Mae gwyddor dinasyddion, ymgysylltiad cyhoeddus a meithrin cynghreiriaid ond yn ychydig o’r enghreifftiau o’r gwaith rydym angen ei ehangu.
Rydym hefyd angen gweithlu mwy amrywiol gyda phobl o wahanol gefndiroedd, oedran, ethnigrwydd, galluoedd a hunaniaeth. A byddwn angen arfogi pobl ieuengach i weithio ar gyfer y dyfodol – gan ofalu am y byd naturiol a dod â threftadaeth ddiwylliannol yn fyw.
Rydym angen bod yn fwy effeithiol nag erioed fel y gallwn dyfu ac amrywio ein hariannu a defnyddio pob punt er budd byd natur a phobl.
Dros y degawd nesaf byddwn yn gweithio tuag at y nodau hyn ac yn addasu i gwrdd â hwy. Byddwn hefyd yn sicrhau bod conglfeini’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ein haelodau, gwirfoddolwyr a’r llefydd gwerthfawr rydym ni’n gofalu amdanynt, yn parhau i ffynnu.
Gobeithiwn y byddwch chi’n teimlo’n falch o’r hyn mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i gyflawni a’ch bod yn barod i ymuno gyda ni ar gyfer y bennod nesaf.
Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.
Yn 2025, byddwn yn lansio rhaglen llysgenhadon am y tro cyntaf yn ein hanes o 130 mlynedd. Mae ein llysgenhadon yn unigolion sy’n rhannu brwdfrydedd tuag at ein pwrpas elusennol a byddant yn helpu i hwyluso ein gwaith a chodi ymwybyddiaeth o’n hachos er mwyn amddiffyn byd natur, harddwch a hanes. (Saesneg yn unig)
Mae byd natur yn dirywio yn gynt yn y DU na bron i unman arall yn y byd. Mae cyfrannu at Mabwysiadu Llecyn yn ffordd fach y gallwch chi gymryd camau mawr tuag at ddod â byd natur yn ei ôl. (Saesneg yn unig)
Rydym yn arddangos Helios, cerflun newydd gan yr artist Luke Jerram. Mae’r darn o waith saith metr wedi’i ysbrydoli gan yr haul, ac yn cyfuno goleuni, sain a dyluniad i amlygu manylion manwl yr haul.
Darganfyddwch sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael ei redeg, sut mae Deddfau Senedd y DU yn sail i’n trefniadaeth llywodraethiant a sut maent wedi’u cynllunio i gefnogi a herio ein staff. (Saesneg yn unig)