Ryseitiau
O fwydydd pôb clasurol poblogaidd i brydau iach y gall y teulu cyfan eu mwynhau, dewch o hyd i’r ysbrydoliaeth ar gyfer eich pryd nesaf. (Saesneg yn unig)
Pobwch fara brith Cymreig traddodiadol gyda’r rysáit hawdd hon o geginau Castell Penrhyn yn Oes Fictoria. Mae’r trît poblogaidd hwn yn cael ei wneud gyda ffrwythau sych, sbeisys a the. Gallwch ei weini ar ei ben ei hun neu gyda menyn.
Rhowch y ffrwyth sych mewn powlen fawr gyda’r siwgr. Ychwanegwch y te a chymysgu’r cyfan yn dda. Gadewch iddo socian dros nos.
Gwresogwch y ffwrn i 160°C (140°C ffan/marc nwy 3). Irwch a leiniwch tun torth 900g gan ddefnyddio’r menyn ychwanegol a phapur pobi.
Ychwanegwch y blawd a’r sbeis cymysg i’r bowlen o ffrwythau sydd wedi bod yn socian. Cymysgwch bopeth yn dda cyn ychwanegu’r wy a gweddill y menyn.
Arllwyswch y gymysgedd i mewn i’r tun torth sydd wedi’i baratoi gennych a phobi yn y ffwrn am 1 awr 15 munud, neu tan fod sgiwer sy’n cael ei wthio i mewn i’r canol yn dod allan yn lân.
Ar ôl i’r dorth oeri, torrwch hi’n dafelli a’i gweini gyda neu heb fenyn, a phaned haeddiannol o de.
O fwydydd pôb clasurol poblogaidd i brydau iach y gall y teulu cyfan eu mwynhau, dewch o hyd i’r ysbrydoliaeth ar gyfer eich pryd nesaf. (Saesneg yn unig)
Cymerwch olwg ar ryseitiau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o glasuron fel sgons caws a chacennau i’r teulu i brydau llysieuol a figan a danteithion tymhorol. (Saesneg yn unig)
Dysgwch sut i wneud sgon ffrwythau berffaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. (Saesneg yn unig)
Mae’r darten hyfryd hon yn blasu o’r haf drwy gydol y flwyddyn. (Saesneg yn unig)
Mwynhewch sleisen o’r gacen foron glasurol hon, wedi’i sbeisio gyda sinamon a chydag eisin hufennog trwchus, cnau Ffrengig mâl a hadau ar ei phen, gyda naddion moron yn goron ar y cyfan. (Saesneg yn unig)
Bisgedi brau menynaidd gyda chompot rhiwbob, iogwrt hufennog chwip a surop gwin moethus. (Saesneg yn unig)
Mae ein cacen Nadolig gyflym yn berffaith os nad ydych wedi cael yr amser i ddilyn rysáit draddodiadol. Mae’n blasu’n hyfryd hefyd. (Saesneg yn unig)
Eisiau sbwylio’ch hun? Rhowch gynnig ar gacen ffrwythau wedi’i socian mewn te, sy’n siŵr o ddod yn ffefryn i’r teulu. (Saesneg yn unig)