Skip to content
Datganiad i'r wasg

Perl ddiwylliannol, Tŷ Mawr Wybrnant, i gael hwb o £294,000 i helpu i ddathlu ei stori arbennig a’i gasgliad Beiblau unigryw

Diwrnod braf a golygfa o hen fwthyn carreg gyda bryniau yn y cefndir a phont garreg isel yn y blaendir.
Tŷ Mawr Wybrnant, Conwy | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Bydd cyllid o bron i £150,000 gan y Wolfson Foundation, rhoddion gan ymddiriedolaethau elusennol Cymreig gan gynnwys Elusen Vronhaul ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones yn ogystal â buddsoddiad sylweddol gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn helpu i ddiogelu, dathlu a rhannu Tŷ Mawr i bawb, am byth.

Daeth Tŷ Mawr Wybrnant i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1951. Cafodd y ffermdy ei adfer a’i ail agor yn 1988 i ddathlu 400 mlynedd ers i’r Beibl gael ei gyfieithu i’r Gymraeg gan William Morgan, a aned yn Nhŷ Mawr. Chwaraeodd ei gyfieithiad rôl bwysig yn safoni’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad heddiw.

Ers 1988, mae Tŷ Mawr wedi croesawu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r byd, gyda nifer wedi’u hysbrydoli gan y stori ac wedi rhoddi Beibl teuluol neu Feibl yn iaith eu hunain.

Ychydig o newidiadau sydd wedi bod i'r adeilad a sut mae ei straeon yn cael eu rhannu ers yr 1980au. Mae’r pandemig, fodd bynnag, wedi bod yn gatalydd i ail-werthuso ac i roi cynnig ar ddulliau newydd wrth i Tŷ Mawr ddechrau ar bennod newydd a chyffrous yn ei hanes.

Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri:

“Fel elusen sydd wedi cael y fraint o adfer a gofalu am le mor arwyddocaol, rydym yn cydnabod bod Tŷ Mawr Wybrnant yn lle pwysig iawn i lenyddiaeth, iaith a chrefydd yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i ofalu am y lle arbennig hwn am genedlaethau i ddod.

“Rydym yn hynod o gyffrous i fod yn rhannu mwy o’r straeon ynghylch ein casgliad Beiblaidd unigryw sydd wedi’i roi i ni. Gyda chymorth ariannol y Wolfson Foundation bydd y prosiect yn gwella profiad ymwelwyr yn Nhŷ Mawr, tra’n sicrhau bod yr adeilad eiconig a’r casgliad unigryw yn cael eu diogelu a’u dathlu.”

Mae yna dair prif elfen i’r prosiect y bydd y cyllid yn helpu i’w cefnogi yn Nhŷ Mawr: gwaith atgyweirio i’r adeilad, arddangosfa casgliadau newydd a gwell mynediad a dehongliad ar y safle.

Oherwydd natur yr adeilad a'i leoliad, mae materion yn ymwneud â lleithder a dŵr yn her yn Nhŷ Mawr. Bydd gwaith atgyweirio sylfaenol yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn sicrhau y gall pawb fwynhau’r adeilad am ganrifoedd i ddod. Ni fydd hyn yn effeithio ar amserlen agor y ffermdy.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau i gatalogio a dehongli’r cannoedd lawer o Feiblau mewn dros 100 o ieithoedd gwahanol sydd wedi’u rhoi i’r eiddo dros y blynyddoedd – llawer ohonynt yn cynnwys nodiadau personol ac yn adlewyrchu eu cysylltiad â Thŷ Mawr. Bydd detholiad o'r eitemau yma yn cael eu harddangos yn y ffermdy.

Mae yna fwriad i ddisodli’r cas arddangos presennol ar y llawr cyntaf gyda chas arddangos pwrpasol sy’n cyrraedd gradd amgueddfa, gyda chas arddangos llai o’r un radd wedi’i osod ar y llawr gwaelod i wella hygyrchedd cyffredinol fel y gall ymwelwyr weld eitemau o’r casgliad ar bob llawr.

Bydd ‘pod cerdded i mewn’ wedi’i ddylunio’n arbennig hefyd yn cael ei gomisiynu ar gyfer yr ystafell arddangos – adeilad ar wahân gyferbyn â Thŷ Mawr – a fydd yn gartref i ddetholiad o Feiblau, gan gynnwys rhai y gall ymwelwyr gafael ynddynt.

Y nod yw cwblhau’r prosiect erbyn haf 2025.

Dywedodd Lois Jones, Uwch Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau Tŷ Mawr:

“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r profiad yn Nhŷ Mawr. Yn y cyfamser, mae gennym raglen gyffrous arall ar y gweill eleni a fydd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau cymunedol newydd ac archwilio amrywiaeth o themâu gwahanol yn ystod ein diwrnodau agored gan gynnwys natur, hanes a cherddoriaeth.

“Cadwch lygad ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion.”

Bydd Tŷ Mawr Wybrnant yn ail-agor dros y Pasg rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sul 24 Mawrth, dydd Gwener 29 Mawrth, dydd Sul 31 Mawrth a dydd Sul 7 Ebrill.

O 7 Ebrill tan 6 Hydref bydd y ffermdy ar agor ar ddydd Sul cyntaf pob mis rhwng 10am a 4pm fel rhan o gyfres o ddiwrnodau agored misol, pob un yn archwilio thema wahanol ac yn rhad ac am ddim i fynychu. Bydd yr ystafell arddangos ar agor bob dydd rhwng 24 Mawrth – 1 Medi ac mae croeso i ymwelwyr ymweld â’r ardd a’r llwybrau cyfagos unrhyw bryd.

Bydd amseroedd agor ychwanegol yn cael eu cadarnhau yn dilyn recriwtio staff tymhorol a byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan.

You might also be interested in

Teulu yn archwilio y tu fewn i Dŷ Mawr Wybrnant, Conwy, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gwneud yn Nhŷ Mawr Wybrnant 

Gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad drwy gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant eleni – o’n hystafell arddangos i gyfres o ddiwrnodau agored misol cyffrous.

Ymwelydd yn eistedd ar bont fwa fach, yng nghefn gwlad yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy. Mae’n edrych tuag at adeilad carreg sydd â mwg yn dod allan o’r simnai.
Erthygl
Erthygl

Hanes yr Esgob William Morgan 

Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.

Tŷ Mawr Wybrnant o'r awyr, Conwy, Cymru
Lle
Lle

Tŷ Mawr Wybrnant 

Man geni’r Esgob William Morgan.

Betws-y-Coed, Conwy

Yn rhannol agored heddiw