![Ffermdy’n dadfeilio â phont garreg o’i flaen yn Nhŷ Mawr, Wybrnant](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/ty-mawr-wybrnant/library/farmhouse-ty-mawr-wybrnant-conwy-wales-692159.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Tŷ Mawr eto eleni. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynnig rhaglen gyffrous o ddiwrnodau agored misol - pob un gyda thema wahanol. Byddwn yn rhannu ein diweddariadau yma.
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant ar agor ar y dyddiau canlynol:
Diwrnod | Dyddiad | Amser |
Dydd Mawrth | 16 Ebrill - 5 Hydref | 10am tan 4pm |
Dydd Sadwrn | 16 Ebrill - 5 Hydref | 10am tan 4pm |
Dydd Llun | 22 Gorffennaf - 31 Awst | 10am tan 4pm |
Dydd Sul | Dydd Sul cyntaf o bob mis. Ebrill - Medi. Gweler y rhan diwrnodau agored misol isod am fwy o wybodaeth. | 10am tan 4pm |
Nodwch: bydd y toiledau dim ond ar agor pan fydd y ffermdy ar agor.
I gyrraedd Tŷ Mawr ewch i Benmachno a dilyn yr arwyddion brown oddi yno, peidiwch â dilyn sat nav na dod ar hyd yr A470.
Dewch i gael golwg o gwmpas y ffermdy bychan ond arwyddocol yma o’r 16eg ganrif a oedd yn fan geni’r Esgob William Morgan, a fu wrthi am 10 mlynedd yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac sydd wedi helpu i sicrhau parhad yr iaith.
Bydd aelod o staff wrth law i adrodd ychydig am ei hanes ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gweler yr amseroedd agor ar gyfer 2024 yn y tabl uchod.
Bydd yr ystafell arddangos gerllaw ar agor bob dydd tan 1 Medi. Yma gallwch ddarllen am hanes Tŷ Mawr, gan gynnwys y cyfnod difyr pan oedd hen ffordd y porthmyn yn cael ei defnyddio.
Mae’r ardd Duduraidd fechan yn Tŷ Mawr, sydd yn y broses o gael ei hadnewyddu, wedi’i dylunio i roi’r apêl synhwyraidd fwyaf drwy gydol y flwyddyn tra hefyd yn cynnwys planhigion a gyfeirir atynt gan Shakespeare a’r Beibl – sy’n ffurfio cysylltiad ychwanegol gyda hanes Tŷ Mawr a'i ddeiliaid. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i dyfu planhigion anarferol yn ogystal â rhai mwy cyfarwydd i ennyn diddordeb ymwelwyr, gyda chynaliadwyedd ac egwyddorion amgylcheddol wrth galon y prosiect.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr ardd.
Mae’r daith hon yn eich arwain trwy hanes cymdeithasol a byd natur y cwm hwn yn ucheldir Cymru. Yn ganolog iddo mae Tŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Byddwch yn cerdded trwy dir amaethyddol traddodiadol yr ucheldir, ar hyd ffyrdd coedwig a hen ffordd y porthmyn.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant
Taith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a gweddillion coetir hynafol. Fe welwch olygfeydd gwych tua’r Wyddfa a Moel Siabod ar hyd y ffordd, yn ogystal ag amrywiaeth anferth o blanhigion a bywyd gwyllt.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Mae dyddiau agored yn Tŷ Mawr yn cael eu cynnal ar ddydd Sul cyntaf pob mis rhwng 10am a 4pm, gyda phob un yn edrych ar thema wahanol.
Bydd rhaglen ddogfen hynod ddifyr gan S4C o 1988 sydd yn cofnodi’r adfer sylweddol a fu yn Tŷ Mawr Wybrnant yn cael ei ddangos ar y safle. Bydd y rhaglen yn cael ei ddangos ar yr awr o 10am ymlaen (dangosiad olaf am 3pm), gyda detholiad o luniau a dogfennau eraill o’r archif ar gael i’w gweld ar y diwrnod hefyd.
Bydd portreadau creadigol o William Morgan yn cael eu harddangos fel rhan o brosiect ‘Campweithiau mewn Ysgolion’ mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y Catholigion Cymreig yn Oes William Morgan.
Cafwyd taith gerdded dechrau mis Mai yng nghwmi Ioan Davies, Warden Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth gyda Gŵyl Natur Cwm Penmachno. Cafwyd cyfle i glywed ychydig o hanes Tŷ mawr cyn mynd ymlaen efo Ioan i archwilio prydferthwch naturiol dyffryn Wybr
Daeth nifer o bobl ynghyd i fwynhau picnic ac adloniant gwych gan Gwilym Bowen Rhys ar brynhawn dydd Sul braf yn Tŷ Mawr. Yn ogystal â chlasuron gwerin megis 'Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn,' cafwyd caneuon eraill gyda hanesion difyr a thrist iddynt - gan gynnwys cân wreiddiol gan Gwilym a oedd yn sôn am ei hen hen daid ag eraill a fu farw mewn ffrwydrad pwll glo yn ne Cymru.
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.