Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci. Er mwyn i bawb allu teimlo'n ddiogel wrth ymweld, gofynnwn i chi gadw'ch ci ar dennyn. Byddwch yn ymwybodol bod da byw hefyd yn pori mewn caeau cyfagos. Nid oes biniau ar y safle felly dewch yn barod i fynd â'ch baw ci adref gyda chi.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio pawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant wedi'i graddio ag un bawen.
Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau gwastraff cŵn a llwybrau cerdded sy'n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â'ch ci i rai mannau, ond nid i bobman. Os oes safle bwyd a diod, gallwch gael paned o de gyda nhw, y tu allan mae'n debyg. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.
Mae croeso i chi grwydro tir y ffermdy, sy’n cynnwys gardd fechan, mannau picnic a nant gyda’ch ci ar dennyn.
Bydd y ffermdy ei hun ar agor ar ddydd Sul cyntaf y mis o Ebrill i Hydref ac mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn ar y llawr gwaelod.
Mae'r cyfleusterau'n gyfyngedig, mae'r toiledau ar agor pan fydd y ffermdy ar agor. Nid oes biniau ar y safle felly dewch yn barod i fynd â'ch baw ci adref gyda chi.
Mae da byw yn pori yn y caeau cyfagos ac efallai y dewch ar draws merlod o’r stablau merlota cyfagos, felly cadwch eich ci ar dennyn.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.
Dilynwch yn ôl troed chwedlau o amgylch Eryri. P'un a ydych am dro hamddenol neu daith gerdded fynyddig, isod mae detholiad o llefydd i flino'r pedwar cymal (a'ch rai chi!).
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Taith gylchol hawdd trwy dir fferm ucheldir sy’n llawn o gynefinoedd bywyd gwyllt, ac yn mynd heibio adeiladau o bwys hanesyddol yng Nghonwy.
Mwynhewch daith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a golygfeydd tua’r Wyddfa.