Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant
Mae’r daith hon yn eich arwain trwy hanes cymdeithasol a byd natur y cwm hwn yn ucheldir Cymru. Yn ganolog iddo mae Tŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Byddwch yn cerdded trwy dir amaethyddol traddodiadol yr ucheldir, ar hyd ffyrdd coedwig a hen ffordd y porthmyn.
Toiledau ar gau
Mae’r toiledau yn Nhŷ Mawr Wybrnant ar agor pan mae'r ffermdy ar agor. Gwiriwch ein hamseroedd agor o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Tŷ Mawr Wybrnant, cyfeirnod grid: SH771523
Cam 1
Cerddwch at y fynedfa i’r maes parcio a throi i’r chwith i lawr y ffordd darmac tuag at Dŷ Mawr Wybrnant, ffermdy o’r 16eg ganrif.
Cam 2
Wrth gyrraedd y giât fynedfa at Dŷ Mawr Wybrnant, mae croeso i chi grwydro trwy’r tir, cyn dal i fynd ar hyd y ffordd dros y bont ac i’r dde. Ewch trwy’r giât ar y chwith a dechrau dringo llwybr garw.
Cam 3
Ewch ymlaen ar hyd llwybr serth. Ewch trwy giât fach cyn troi i’r chwith heibio craig fawr lyfn ar y dde. Cadwch y wal gerrig ar y chwith i chi.
Cam 4
Cerddwch i lawr llwybr y porthmyn nes dewch chi i gyffordd gyda llwybr y goedwig. Trowch i’r chwith. Byddwch yn cyrraedd seddi sy’n edrych dros Gwm Wybrnant yn fuan.
Cam 5
Ewch ymlaen ar hyd ffordd y goedwig.
Cam 6
Lle mae’n fforchio, cadwch i’r dde i ddal i fynd ar hyd y llwybr a dychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Tŷ Mawr Wybrnant, cyfeirnod grid: SH771523
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Mwynhewch daith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a golygfeydd tua’r Wyddfa.
Taith Ysbyty Ifan a Chwm Eidda
Dilynwch daith gerdded Ysbyty Ifan a Chwm Eidda a mwynhau golygfeydd o Ddyffryn Conwy a’r Carneddau yng Nghonwy, Cymru.
Taith gylchol Llyn Ogwen
Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymwelwch â'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.
Ymweld â Thŷ Mawr Wybrant gyda'ch ci
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.