![Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen, yn adlewyrchu mynyddoedd dan eira](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/winter/llyn-ogwen-carneddau-and-glyderau.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Llyn Ogwen
Profwch olygfeydd gwych o Dryfan a’r Glyderau o’r llwybr glan llyn hwn heb orfod mentro ar daith heriol i gopaon Eryri.
Tir gwlyb a cherdded ar y ffordd
Cofiwch y gall rhan gyntaf y daith fod yn wlyb iawn a chorslyd (yn arbennig yn y gaeaf) tra bod yr ail ran yn dychwelyd ar hyd y briffordd.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, Nant Ffrancon, Bethesda, LL57 3LZ. Cyfeirnod grid: SH 650603
Cam 1
O Fwthyn Ogwen, croeswch y briffordd a throi i’r chwith, croesi’r bont ac yna troi i’r dde dros y gamfa (bwlch yn y wal).
![Golygfa o’r cefn o grŵp o gerddwyr ar y palmant wrth ochr wal gerrig, yn anelu at adeilad carreg](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/walkers-carneddau-and-glyderau.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 2
Dilynwch yr afon ar i fyny at y llyn trwy ddringo dros y cerrig mawr, a all fod yn eithaf heriol. Gall fod yn hawdd colli’r llwybr yma, ond daliwch i anelu am y llyn a daw’r llwybr yn fwy amlwg gydag arwyddion cyfeirio yma ac acw.
Cam 3
Dilynwch lan y llyn a’r arwyddion am hanner milltir cyn dringo bryn bychan oddi wrth y llyn. Croeswch y gamfa a mynd yn eich blaen.
![Golygfa o’r cefn o ddau gerddwr wrth ochr y llyn yn Llyn Ogwen yn y gaeaf oer, gyda’r llethrau o’u blaenau dan eira](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/winter/walkers-by-lake-carneddau-and-glyderau11972351.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 4
Wrth i chi nesáu at y ffermdy wrth ben y llyn, croeswch gamfa arall ac yna cadw i’r chwith tuag at y bont droed a dilyn y llwybr uchaf, sy’n osgoi buarth y fferm ac yna’n croesi camfa cyn mynd i lawr i ymuno â ffordd y fferm.
Cam 5
Dilynwch y ffordd hon oddi wrth y ffermdy nes y cyrhaeddwch chi’r briffordd. Trowch i’r dde a dilyn y palmant ar hyd glan y llyn yn ôl at Fwthyn Ogwen.
Man gorffen
Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, Nant Ffrancon, Bethesda, LL57 3LZ. Cyfeirnod grid: SH 650603
Map llwybr
![Map o daith gylchol Llyn Ogwen](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/carneddau-and-glyderau-llyn-ogwen-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/cwm-idwal-valley-carneddau-and-glyderau-wales1190344.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Cwm Idwal
Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.
![Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/nant-gwynant-beddgelert-snowdonia-wales-1456408.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.
![Gate from Walled Garden in winter at Penrhyn Castle](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/penrhyn-castle-and-garden/library/winter/1681150.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cysylltwch
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/climbers-tryfan-and-glyder-fach-carneddau-and-glyderau-gwynedd-1197268.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded a dringo ar Dryfan
Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.