
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin yn troedio unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu. Ar y copa fe welwch adfeilion tŵr sgwâr a muriau amddiffynnol yn perthyn i hen dywysogion Gwynedd.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, cyfeirnod grid: SH600489
Cam 1
Cychwynnwch eich taith yng nghanolfan Tywysogion Gwynedd yng Nghraflwyn.
Cam 2
O’r maes parcio dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny trwy’r coetir. Wrth i’r llwybr wastatau bydd yn fforchio, dilynwch y llwybr i’r dde a mynd ymlaen nes gwelwch chi fainc draig. Arhoswch am eiliad yma cyn mynd ymlaen ar hyd y llwybr ac i fyny grisiau i’r dde o raeadr fechan.

Cam 3
Daliwch i fynd ar eich taith nes cyrhaeddwch chi gyffordd sy’n cynnig tair ffordd mewn ardal agored. Dilynwch y llwybr sy’n mynd yn syth ymlaen, i fyny tuag at y coetir, ac ar ôl 100m cadwch i’r dde yn y fforch. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr dros bont bren fechan nes cyrhaeddwch chi raeadr hardd.
Cam 4
Ewch ymlaen nes byddwch chi’n cyrraedd fforch arall yn y llwybr a chadw i’r dde. Byddwch yn cyrraedd camfa yn y wal ar y dde yn fuan iawn. Ewch ymlaen dros y gamfa i’r coed.
Cam 5
Daliwch i fynd trwy’r coed. Dilynwch y llwybr igam-ogam i fyny’r graig tuag at Ddinas Emrys.

Cam 6
Rydych bron â chyrraedd. Ychydig gamau eto a byddwch yn cyrraedd copa Dinas Emrys. Mae’r ddringfa olaf yn serth a chreigiog. Pan fyddwch yn barod i ddychwelyd, dilynwch yr un llwybr yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, cyfeirnod grid: SH600489
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Taith Aberglaslyn, Bryn Du a Beddgelert
Taith gylchol trwy goetir hynafol, ar draws golygfeydd mynyddig sydd hefyd yn mynd heibio bedd Gelert ym Meddgelert a Bwlch Aberglaslyn.

Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig
Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.