
Taith Aberglaslyn, Bryn Du a Beddgelert
Mae’r daith gylchol hon yn mynd â chi trwy goetir hynafol a thrwy olygfeydd mynyddig gwych o Eryri yn ogystal ag ymweld â bedd Gelert ym Meddgelert ac i’r Bwlch Aberglaslyn rhyfeddol.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Nantmor, cyfeirnod grid: SH597462
Cam 1
Ewch trwy’r giât yn y maes parcio a throi i’r chwith am Aberglaslyn.
Cam 2
Wrth gyrraedd yr afon, ewch i’r chwith trwy’r giât mochyn, yna dros bont yr afon. Trowch i’r chwith ar y ffordd.
Cam 3
Rownd y tro fe welwch chi arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Coed Aberglaslyn a llwybr ar y dde. Dilynwch y llwybr at y nant, yna troi i’r dde i fyny’r grisiau. Dilynwch yr arwyddion i fyny trwy’r coed.
Cam 4
Croeswch y gamfa i’r Bryn Du. Gallwch fynd oddi ar y llwybr i weld y tŵr bychan ar ben y bryn.
Cam 5
Dilynwch y llwybr i lawr, trwy’r giât at yr adfail gyda’r goeden wedi syrthio. Dros y gamfa, trowch i’r chwith ar hyd rhan uchaf y cae a dilyn y llwybr i lawr at y rheilffordd.
Cam 6
Croeswch y rheilffordd a’r ffordd, trwy’r giât gyferbyn a dilyn y trac at giât bren fechan ar y chwith.
Cam 7
Ewch trwy’r giât a dilyn y llwybr i’r chwith at fedd Gelert a’r cerflun.
Cam 8
Dilynwch y llwybr i Feddgelert, yna troi i’r dde a chroesi’r bont, yna i’r dde eto i ddilyn yr afon ar i lawr. Ar ôl cyrraedd y ffordd trowch i’r chwith i’r coed ac yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Nantmor, cyfeirnod grid: SH597462
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.

Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.

Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Dysgwch am hanes Gelert
Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Bythynnod gwyliau yn Eryri
Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.