Skip to content
Golygfa dros y dyffryn o Dŷ Mawr Wybrnant ar ddiwrnod braf
Golygfa dros y dyffryn o Dŷ Mawr Wybrnant | © National Trust Images/Arnhel de Serra
Wales

Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda

Taith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a gweddillion coetir hynafol. Fe welwch olygfeydd gwych tua’r Wyddfa a Moel Siabod ar hyd y ffordd, yn ogystal ag amrywiaeth anferth o blanhigion a bywyd gwyllt.

Cyfanswm y camau: 12

Cyfanswm y camau: 12

Man cychwyn

Cilfan Ty’n y Coed ar y B4406, cyfeirnod grid: SH80519

Cam 1

Os ydych wedi gyrru yma, parciwch yn y gilfan ar y B4406 (SH80519) gyferbyn â Phlas Eldon. Yn ofalus, cerddwch ar hyd ochr y ffordd, tua 150 llath yn ôl tuag at yr A5, nes cyrhaeddwch chi Ty’n y Coed a ffordd fferm Dugoed ar yr ochr dde.

Cam 2

Croeswch y ffordd a mynd trwy’r giât fach yn union gyferbyn. Cerddwch i fyny i gornel uchaf chwith y cae ac ewch trwy’r giât i ffordd y ffarm. Trowch i’r dde ac wedyn i’r chwith, gan ddilyn y ffordd i fyny’r rhiw. Trowch i’r dde eto, gan ddilyn y llwybr sydd ag arwyddion i fyny’r rhiw hyd ddiwedd y rhan o’r llwybr sydd â wal ddwbl.

Cam 3

Cerddwch i fyny at y ffens, cadwch i’r dde a dilyn y ffens ar hyd y llechwedd nes deuwch chi at fwlch bach mewn wal gerrig. Croeswch y cae nesaf a thrwy’r bwlch ar y dde yn y wal gerrig. Daliwch i gerdded ar i fyny trwy goetir bychan, gan gadw i’r dde nes dewch chi at nant a wal gerrig. Croeswch y gamfa yn y ffens ac anelu am y bont garreg.

Cam 4

Croeswch y bont a dilyn yr arwydd i fyny’r cae heibio murddun Carreg yr Ast Isaf ac ymlaen i’r bwthyn nesaf, Carreg yr Ast Uchaf. Anelwch am gornel isaf chwith y cae dan y bwthyn, ewch dros y gamfa a dilyn y clawdd pridd i lawr at y nant. Croeswch y bont garreg a dal i fynd yn syth ymlaen nes dewch chi at drac garw. Dilynwch hwn i’r chwith, gan anelu am gornel uchaf chwith y cae. Ewch dros y gamfa at furddun Ffriddwen.

Cam 5

Ewch yn eich blaen, ar hyd tu blaen adfail y tŷ a heibio adfeilion y beudy, nes cyrhaeddwch chi nant. Croeswch y nant a’i dilyn i fyny i ael y bryn. Croeswch y gamfa a cherdded ar i fyny am tua 440 llath (400m), gan gadw’r nant ar y dde i chi. Croeswch y gamfa nesaf, mewn ffens wrth ochr wal sydd wedi chwalu, yna gadewch y nant i gadw ychydig i’r chwith ar i fyny at arwydd arall wrth fwlch mewn wal gerrig.

Cam 6

Anelwch ar i lawr heibio hen chwarel sydd wedi ei gadael ar y dde tuag at adfeilion bwthyn Hwylfa. Arhoswch ar y llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog a thu blaen y tŷ, gan ei ddilyn dros y gamfa yn y ffens. Cadwch y wal gerrig uchel ar y chwith i chi ac ewch ar i lawr nes deuwch chi at gamfa bren.

Cam 7

Croeswch y gamfa a dilyn y pyst marcio i lawr y bryn. Dringwch dros y gamfa nesaf a chadw ychydig i’r dde nes deuwch chi at ffordd. Ewch trwy’r giât, trowch i’r dde trwy ail giât ac yna dilyn y llwybr aneglur wrth ochr y wal nes deuwch chi at y prif drac.

Cam 8

Trowch i’r chwith a dilyn y trac hwn at giât bren sy’n arwain at Goed Maen Bleddyn, coetir cymysg o goed conwydd a llydanddail. Plannwyd y coed yma yn yr 1960au ac maent wedi cael eu teneuo ddwywaith ers hynny i annog mwy o amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Cam 9

Tua 22 llath (20m) i’r coed, dilynwch y trac ar y chwith. Yng nghanol y coed mae coeden ffawydd odidog. Dyma’r cyfan sydd ar ôl o fforest oedd yn tyfu yma unwaith – torrwyd y coed eraill yn yr 1940au oherwydd y rhyfel.

Cam 10

Croeswch y gamfa ysgol allan o’r coed a chrymanu ychydig i’r chwith at giât sy’n arwain i dir amaethyddol agored. Cadwch i’r chwith eto, gan anelu at wal gerrig, ac ewch trwy’r agoriad bach ar ei hochr dde. Anelwch am Fryn Eithin, dilynwch y trac trwy’r buarth a dilyn hwn am tua ½ milltir (0.8km).

Cam 11

Dilynwch yr arwydd at gamfa a nant, yna cadwch ychydig i’r chwith ar draws y cae at giât fach yn y wal gerrig. Gelwir y bryn creigiog ar y chwith i chi yn Domen Castell. Ewch trwy’r giât a cherdded yn syth ymlaen, yna cadwch ychydig i’r dde ac ar i lawr nes cyrhaeddwch chi gamfa lle mae tair ffens yn cyfarfod. Ewch dros y gamfa a dilyn y wal gerrig i lawr y cae at y giât fawr. Ewch trwodd, trowch i’r chwith a dilyn y llwybr aneglur i lawr y llechwedd rhedynog. Croeswch y rhan wlyb ar waelod y llechwedd a chadw i’r dde tuag at y gamfa.

Cam 12

Croeswch y gamfa i’r ffordd gul. Trowch i’r chwith i lawr y lôn, sy’n dod allan i’r B4406. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd fawr. Ewch trwy’r maes parcio preifat a dilyn y llwybr, trwy’r giatiau. Daliwch i fynd ar hyd y llwybr yma, trwy’r caeau gwair, nes deuwch chi at y giât wrth y B4406. Trowch i’r dde a dal i fynd ar hyd ymyl y ffordd nes cyrhaeddwch chi’r gilfan.

Man gorffen

Cilfan Ty’n y Coed ar y B4406, cyfeirnod grid: SH80519

Map llwybr

Map yn dangos y llwybr a’r camau ar daith Ty'n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Taith Ty'n y Coed Uchaf a Chwm Eidda | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Diwrnod braf a golygfa o hen fwthyn carreg gyda bryniau yn y cefndir a phont garreg isel yn y blaendir.
Llwybr
Llwybr

Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant 

Taith gylchol hawdd trwy dir fferm ucheldir sy’n llawn o gynefinoedd bywyd gwyllt, ac yn mynd heibio adeiladau o bwys hanesyddol yng Nghonwy.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan 

Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5.7 (km: 9.12)
Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Cwm Idwal 

Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen, yn adlewyrchu mynyddoedd dan eira
Llwybr
Llwybr

Taith gylchol Llyn Ogwen 

Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.9 (km: 4.64)

Cysylltwch

Penmachno, Betws-y-Coed, Conwy, LL25 0HJ

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Visitor crossing water via stepping stones with their dog on an autumnal walk at Wallington

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.(Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.