Taith Ysbyty Ifan a Chwm Eidda
Ewch i fyny i’r bryniau ar hen ffordd porthmyn i brofi’r golygfeydd o Ddyffryn Conwy a mynyddoedd y Carneddau.
Cyfanswm y camau: 10
Cyfanswm y camau: 10
Man cychwyn
Maes parcio Ysbyty Ifan, cyfeirnod grid: SH842488
Cam 1
Ewch allan o’r maes parcio i’r ffordd, trowch i’r chwith ac yna i’r dde bron yn syth wedyn ar y lôn rhwng yr elusendai a’r coed tal. Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn yma, trwy’r giatiau, nes cyrhaeddwch chi ffordd darmac.
Cam 2
Trowch i’r dde a dilyn y ffordd hyd gopa’r bryn. Os yw’r tywydd yn glir fe gewch chi olygfeydd rhyfeddol oddi yma i lawr Dyffryn Conwy ac ar draws at Foel Siabod a’r Carneddau.
Cam 3
Dilynwch y ffordd darmac, gan anwybyddu’r ffordd sy’n troi i lawr i’r dde, a mynd ymlaen o gwmpas y bryn i’r chwith. Ewch trwy giât ar draws y ffordd, croeswch bont garreg fawr a mynd ymlaen yn syth lle mae’r tarmac yn newid i fod yn ffordd garegog.
Cam 4
Croeswch y bont nesaf (Pont Rhyd-yr-Halen) a dilyn y ffordd i fyny’r bryn nes cyrhaeddwch chi giât. Croeswch y gamfa ger y giât a cherdded i ben y bryncyn bach i gael golygfa o fynyddoedd Eryri.
Cam 5
Ewch yn ôl i’r ffordd. Gan gadw’r ffens ar eich ochr chwith, trowch ar draws y rhostir. Ewch ymlaen nes cyrhaeddwch chi dro clir i’r chwith yn y ffens, yna dilynwch yr arwyddion ar i lawr, gan gadw ychydig i’r dde tuag at wal gerrig a giât sydd yn y pellter. Cerddwch ar hyd y ffordd sy’n gyfochrog â’r wal yma ac ewch trwy’r giât yn y pen pellaf. Dilynwch y trac garw i lawr y bryn nes byddwch chi’n mynd i lawr yn serth tua fferm Eidda Fawr. Ychydig cyn i chi gyrraedd y beudy ar y chwith, trowch i’r dde a mynd o gwmpas y domen dail i gyrraedd y gamfa.
Cam 6
Ewch dros y gamfa a chroesi’r ffordd, gan ddilyn yr arwyddion trwy’r sied, ac i lawr ochr chwith y cae dan y ffordd. Croeswch y nant ar y gwaelod ac anelu am y gornel dde bellaf yn y cae nesaf.
Cam 7
Croeswch bompren ac yna anelwch am gornel uchaf dde'r cae. Ewch trwy’r giât ac anelu am y gamfa yn nhop y cae, gan gadw’r nant ar yr ochr dde i chi. Dringwch dros y gamfa a throi i’r chwith, trwy’r giât i ffordd arw. Dilynwch hon nes dewch chi i ffordd darmac yn rhan uchaf y buarth. Dilynwch y ffordd hon i’r chwith, trwy giât a heibio’r fferm nesaf. Cerddwch i fyny’r bryn nes gwelwch chi bont fechan. Cyn i chi gyrraedd y bont, ewch trwy’r giât sy’n eich wynebu wrth i chi gerdded i fyny’r bryn. Dilynwch y ffordd hon.
Cam 8
Croeswch y nant fechan ar y chwith a mynd yn eich blaen, gan ddilyn trac brwynog aneglur ac yna bancyn pridd.
Cam 9
Dilynwch yr arwydd sy’n pwyntio ar draws ffordd ar ben y bryn yn ôl tuag at Ysbyty Ifan. Mae’r llwybr yn dilyn ochr chwith Coed y Fron, coetir collddail cymysg. Yn y gwanwyn bydd y ddaear dan orchudd o glychau’r gog, briallu a blodau’r gwynt.
Cam 10
Pan fydd y llwybr yn cyrraedd y ffordd, trowch i’r dde a cherdded yn ôl i’r pentref.
Man gorffen
Maes parcio Ysbyty Ifan, cyfeirnod grid: SH842488
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Mwynhewch daith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a golygfeydd tua’r Wyddfa.
Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant
Taith gylchol hawdd trwy dir fferm ucheldir sy’n llawn o gynefinoedd bywyd gwyllt, ac yn mynd heibio adeiladau o bwys hanesyddol yng Nghonwy.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)