Llwybr coedwig a thraeth Abermawr
Cylchdaith drwy goedwig clychau’r gog a dolydd, traeth graeanog a chors. Mae Abermawr yn saib gwerthfawr ar un o ddarnau garwaf yr arfordir. Roedd Brunel eisiau creu porthladd a therminws ceblau yma, ond ni wireddwyd ei gynlluniau.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Cylch troi traeth Abermawr, cyfeirnod grid: SM884347
Cam 1
Dilynwch y llwybr oddi ar ochr chwith y cylch troi, lle mae arwydd yn dweud ‘Abercastell 3 milltir’. Ewch ar hyd y llwybr tua’r traeth.
Cam 2
Ar ddechrau’r traeth graeanog, trowch i’r chwith tua’r tir mawr, drwy gât, i mewn i gae wrth ochr y gors. Mae’r gors yn troi’n goetir, gyda wal llawn chwyn i’r dde ohonoch.
Cam 3
Cerddwch o gwmpas pen y cae tan eich bod yn dod at gerrig camu mawr, gât arall a llwybr i mewn i’r coed.
Cam 4
Dilynwch lwybr y coetir tan i chi gyrraedd gât i mewn i gae. Dilynwch y llwybr i’r chwith, ychydig cyn y gât, o gwmpas ymyl y cae, neu ewch drwy’r gât i mewn i’r cae. Cadwch i’r dde a chroeswch y bont garreg welltog.
Cam 5
Ewch yn eich blaenau, gan anelu am y gât 5-bar o’ch blaen. Ewch drwy’r gât hon a dros y bont fechan, cyn troi i’r dde ar unwaith a dilyn y llwybr yn ôl tua’r traeth.
Cam 6
Wrth y gât nesaf, naill ai ewch drwy’r gât a dilyn y llwybr ceffylau ar draws y cae i’r gât y gallwch ei gweld yn y pen pellaf, neu dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y coetir i’r dde ohonoch a cherdded o gwmpas i le mae’r llwybr troed a’r llwybr ceffylau yn uno.
Cam 7
Tua 20 llath (20m) ar ôl y gât hon, dringwch y stepiau i’r chwith. Cadwch i’r dde a dilyn llwybr y coetir yn ôl tua’r traeth. Fe welwch y gors yn dod i’r golwg i’r dde ohonoch.
Cam 8
Mae’r llwybr yn eich tywys i draeth graeanog, gyda golygfeydd arfordirol gwych tua phentir creigiog Penbwchdy. Yn y fan hon, mae’r môr yn gwthio’r traeth graeanog yn ôl yn raddol i mewn i’r gors. Mwynhewch bicnic yma cyn cerdded yn ôl ar hyd y traeth i’r heol.
Man gorffen
Cylch troi traeth Abermawr, cyfeirnod grid: SM884347
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr arfordirol Porthgain i Abereiddi
Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau Sir Benfro, ymwelwch â hen chwarel lechi’r Morlyn Glas a gwyliwch fywyd gwyllt ar Ynys Barri.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.