Skip to content

Ein gwaith yng Ngardd Bodnant

A woman in black weather proof clothes abseils down a green gorge, carrying a small pine sapling in a bright red backpack
Garddwr Alex Davies yn abseilio i lawr clogwyn serth yn Y Glyn i blannu Pinwydden Wollemi yn Ardd Bodnant, Conwy | © National Trust Images/Iolo Penri

Mae cynnal a chadw gardd Restredig Gradd 1 hanesyddol, ac enwog o ran ei garddwriaeth yn golygu llafur cariad trwy’r flwyddyn i’n garddwyr, gwirfoddolwyr yr ardd a myfyrwyr. Dysgwch sut mae’r tîm yn gweithio i’w chadw’n hardd.

Blwyddyn o swyddi i’w gwneud ym Modnant

Wrth i’r ddaear gynhesu yn y gwanwyn mae’r tîm yn dechrau chwynnu, rhoi compost a wnaed gartref ar y gwelyau, plannu a thocio llwyni (gan gynnwys tocio ein tri lliw ar ddeg enwog) a chlirio erwau o flodau sydd wedi syrthio.

Glanhau’r gwanwyn ac abseilio

Y prif swyddi eraill yn y gwanwyn yw tynnu pennau marw’r Cennin Pedr yn yr Hen Barc, pan gaiff y tîm help llaw gan wirfoddolwyr – a chwynnu llethrau’r Glyn, tasg arbennig a wneir gan arddwyr sydd wedi cael hyfforddiant i abseilio.

Garddwr ym Modnant yn torri gwair o flaen y Felin Binnau
Garddwr yn torri gwair yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Tynnu pennau marw, tocio a thorri glaswellt

Yn nyddiau cynhesach, hirach yr haf mae’r ardd yn ei hanterth ac mae’r tîm yn brysur yn tynnu pennau marw’r rhosod, yn porthi a dyfrio borderi blodau, yn torri a siapio gwrychoedd pren bocs, yn tocio’r tresi aur a’r wisteria ac yn torri, torri a thorri gwair! Boed yn lawntiau perffaith neu lennyrch blodau gwylltion a chaeau, mae yna laswellt yn rhywle sydd angen ei dorri bob amser ar ein safle 80 erw.

Tasg anferth

Wrth i’r dail droi eu lliw yn yr hydref bydd y garddwyr yn troi eu sylw at ddigroeni lawntiau ac adnewyddu’r tywyrch, tacluso’r arddangosfeydd blodau a phlannu bylbiau at y gwanwyn. Ar ddiwedd y tymor daw’r dasg anferth o gasglu 80 erw o ddail sydd wedi syrthio, sy’n mynd i’n pentyrrau compost.

Byrhau’r gaeaf

Er bod llawer o erddi yn cael eu gadael yn y tymor oerach mae digon i’w wneud o hyd ym Modnant; tocio’r rhosod, cynnal yr Ardd Aeaf, clirio’r nentydd sy’n llifo o ran uchaf yr ardd i’r gwaelod, gwaith ar y coed a swyddi disylw, ond hanfodol, fel ail raeanu llwybrau, trwsio draeniau a thrwsio ffensys atal cwningod.

Y Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant yn y gaeaf
Y Bwa Tresi Aur yng Ngardd Bodnant yn y gaeaf | © National Trust Images/Lee Evans

Tocio’r Bwa Tresi Aur

Yng nghanol Ionawr rhewllyd daw’r dasg o docio’r Bwa Tresi Aur byd-enwog, a all gymryd tua mis i ddau arddwr medrus.

Daw’r tymor i ben gydag ymdrech fawr gan y tîm yn plannu eirlysiau yn y tir glas. Rydym yn plannu tua 20,000 bob Chwefror yng ngweirglodd yr Hen Barc, gyda help ymwelwyr – ffordd wych o nodi blwyddyn newydd yn yr ardd.

Golygfa o'r Ardd Gron rewllyd yn y gaeaf, ym Modnant, Conwy, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Llun du a gwyn yn dangos Henry Pochin wedi ei amgylchynu â phobl yn cynnwys ei Brif Arddwr, yn plannu coed yn yr ardd ym Modnant oddeutu 1885.
Erthygl
Erthygl

Pobl Gardd Bodnant 

Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.

Dog portraits from the Dog Fest at Bodnant Garden, Conwy
Erthygl
Erthygl

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.