Skip to content

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Ystafell te Y Bothy ac Oriel Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro | © National Trust Images/Sue Jones

Mae’r ystafell de a’r galeri wedi eu lleoli mewn grŵp o ysguboriau gwyngalchog lle’r oedd gweithwyr ystad Colby’n byw, coginio a chysgu ar un adeg. Galwch heibio am rywbeth i’w fwyta, neu brynu anrheg wedi’i gwneud â llaw cyn neu ar ôl eich ymweliad â’r ardd.

Bwyta a Siopa yn Colby

Gyda chymaint i’w archwilio yng Ngardd Goetir Colby, byddwch yn siŵr o fod eisiau bwyd. Mwynhewch brydau blasus yn Ystafell De’r Caban, cyn siopa am gofroddion ac anrhegion yn Galeri’r Crefftwyr neu’r siop lyfrau ail-law a chofroddion Colby yn y Ganolfan Croesawu Ymwelwyr.


Ystafell De’r Bwthyn

Ystafell de fendigedig sy’n llawn cymeriad a hud hanesyddol. Caiff ei rhedeg gan dîm teuluol, sef Francesca a’i merched. Yn y Bwthyn, caiff y cynnyrch lleol tymhorol gorau ei weini.

Mae’r Bwthyn yn cynnig lloches llawn croeso ym mhob tymor – pa un a fyddwch awydd cael cawl cartref o flaen tanllwyth o dân ar ddiwrnod oer yn y gaeaf, neu hufen iâ Cymreig gwobrwyol a hynod flasus ymhlith y blodau ar ddiwrnod braf o haf.Neu beth am eich tretio eich hun i de prynhawn traddodiadol a weinir ar lestri tsieina cywrain? Mae tîm teuluol y Bwthyn yn danbaid dros gynnyrch lleol, felly gallwch hefyd brynu pot o siytni cartref neu fêl lleol i fynd adref gyda chi.

Beth sydd ar y fwydlen?

Mae’r Bwthyn yn gweini brecwast, cinio a danteithion melys, yn cynnwys peis a thartenni sawrus cartref, saladau organig, a chacennau a hufen iâ blasus. Mae bwrdd y ‘prydau arbennig dyddiol’ yn cynnwys opsiynau figan, llysieuol a heb glwten, a hefyd ceir bwydlen unigryw ar gyfer cŵn i blesio eich cyfeillion pedair pawen. Mae’r tîm yn anelu at gynnig rhywbeth a fydd at ddant a phoced pawb.

Detholiad o ddiodydd

Os ydych awydd diodydd poeth neu ddiodydd i dwymo’r galon yn y gaeaf, gallwch ddewis o blith coffi rhost lleol, te rhydd Sir Benfro, a siocled poeth o wahanol fathau.

Yn ystod tywydd cynhesach yr haf, gallwch ddewis o blith diodydd oer fel piseri blodau ysgaw, te rhew, smwddis, ysgytlaeth a llawer mwy. Ac i goroni’r cwbl, caiff llaeth ffres ei ddanfon mewn tuniau llaeth yn syth o laethdy Trenewydd, filltir yn unig o’r ystafell de.

Alergenau

I gael rhagor o gymorth, siaradwch ag aelod o’r tîm cyfeillgar – cewch wybodaeth gyfredol am yr alergenau a’r cynhwysion i gyd.

Mae tîm y Bwthyn yn edrych ymlaen at eich croesawu drwy gydol 2024

A close up of traditional cream tea outside the tea-room at Corfe Castle, Dorset
Ymwelwyr yn mwynhau lluniaeth. | © National Trust Images/David Levenson

Siopa yn Colby

Yn y Ganolfan Croesawu Ymwelwyr fe welwch ystod o gofroddion Colby, ynghyd â’n siop lyfrau ail law sy’n cadw ystod eang o lyfrau wedi eu defnyddio ac yn helpu i godi arian i ofalu am yr ardd. Dewch i siopa, i roi llyfrau ail-law neu ddod yn wirfoddolwr.

Galwad am lyfrau ail-law.

Rydym bob amser yn chwilio am lyfrau nad yw pobl eu hangen bellach. Os ydych yn teimlo y gallwch roi rhai, ffoniwch 01834 811885 (est. 2) neu e-bostio colby@nationaltrust.org.uk Oherwydd eich gwario a’ch cymorth chi rydym yn gallu parhau i ofalu am natur, prydferthwch a hanes i bawb, am byth. Diolch.

“Mae pob llyfr sy’n cael ei roi neu ei brynu yn ein siop lyfrau ail-law yn dod â llawenydd i wirfoddolwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, wrth ein helpu ni i ofalu am y lle arbennig iawn hwn.”

Dyfyniad gan Ellen DaviesYmddiriedolaeth Genedlaethol Rheolwr Croeso, Gardd Goetir Colby

Galeri’r Groglofft

Mynediad mewnol Galeri’r Croglofft Gardd Goetir Colby, Sir Benfro.
Galeri’r Croglofft Gardd Goetir Colby, Sir Benfro. | © National Trust Images/Sue Jones

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yng Ngaleri’r Groglofft, sy’n cael ei redeg gan grefftwyr Sir Benfro, cymuned o artistiaid a chrefftwyr annibynnol sydd wedi bod yn mynd ers bron i 40 mlynedd.

Dewiswch o gasgliad eclectig o grefftau cyfoes a thraddodiadol wedi eu gwneud â llaw. Cewch hyd i grochenwaith, gemwaith, dillad wedi eu gwau, gwaith lledr wedi eu gwneud â llaw a lluniau a ffotograffau gwreiddiol yn cael eu harddangos. Cewch gwrdd â rhai o’r crefftwyr a sgwrsio am eu crefft.

Mae’r Galeri wedi ei lleoli yn ardal yr iard gerllaw Ystafell De’r Caban ac mae modd cael mynediad drwy fynd i fyny’r grisiau allanol ym mhen pellaf yr ysguboriau gwyngalchog.

Am ragor o wybodaeth ynghylch crefftwyr Sir Benfro ewch i’w gwefan fan hyn, neu ymunwch ag un o’u nifer o weithdai sy’n cael eu cynnal yn ystod y tymor gwyliau.

Golygfa o’r Ardd Furiog yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae llwybr yn arwain drwyddi, a nesaf ato mae borderi trwchus a choeden aeddfed fawr â dail coch tywyll.

Discover more at Colby Woodland Garden

Find out when Colby Woodland Garden is open, how to get here, the things to see and do and more.

Plant wrth y ffynnon yn yr ardd furiog yng Ngardd Goetir Colby
Erthygl
Erthygl

Dyddiau i’r Teulu yng Ngardd Goetir Colby 

Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Cwpwl yn mynd â’r ci am dro dros bont yng Ngardd Goetir Colby, Sir Benfro
Gweithgaredd
Gweithgaredd

Ymweld â Gardd Goetir Colby gyda'ch ci 

Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.

Olwyn fawr yn gorwedd ar lawr y coetir yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae planhigion wedi tyfu ym mhob rhan o’r olwyn.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Goedwig Colby 

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.