Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.
Dyma ychydig o wybodaeth allweddol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw.
Mae tiroedd coediog Colby yn hafan i natur – y lle perffaith i fynd am dro tra’n mwynhau golygfeydd a synau swynol yr hydref. Ceisiwch ddod o hyd i ffwng ar lawr y goedwig, gwiwerod yn chwilota am gnau ac adar yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Rhyfeddwch at liwiau hydrefol tanbaid y masarn, y cwyrwiail a’r gludwydd ar eich taith. Mae ‘na berllan fechan y gallwch ymweld â hi ar yr ystâd ehangach, yn ogystal â choed ffrwythau yn yr ardd furiog.
Beth am fynd am dro gyda’r teulu a chwblhau rhai o weithgareddau’r ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾’? Ewch i chwilota am fwyd gwyllt, chwarae concyrs, gwylio aderyn neu adeiladu den yn yr isdyfiant.
Gardd y Coetir yw'r lle delfrydol i blant o bob oed ddarganfod natur drwy chwarae. Darganfyddwch y llannerch syllu ar yr awyr ym mhen y goedwig, neu mwynhewch adeiladu ffau dan y coed. Mwynhewch neidio ar y cerrig camu anferth neu archwiliwch y fflora a’r ffawna sy’n ymgartrefu o amgylch y nant sy’n llifo drwy’r ddôl yn rhan isaf yr ardd.
Bachwch siart a phamffled “50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11 ¾” o’r ganolfan croesawu ymwelwyr pan fyddwch yn cyrraedd, er mwyn rhoi syniad i blant sut i wneud y mwyaf o’r ardd chwarae awyr agored enfawr hon.
Dysgwch fwy yma, neu os yw’r tywydd yn braf, dewch â phicnic a blanced gyda chi i fwynhau pryd gyda’r teulu cyfan yn y ddôl yn rhan isaf yr ardd.
Os ydych chi awydd siopa, archwiliwch Oriel Grefftwyr Sir Benfro uwchben yr ystafell de yma neu tretiwch eich hun neu ffrind i lawlyfr Colby a llyfr ail-law o'r ganolfan croesawu ymwelwyr.
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.
Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.
Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.