Arddangosfeydd yn Dinefwr
Rhaglen o arddangosfeydd sy'n adlewyrchu agweddau o hanes Dinefwr mewn sawl ffurf, y tirwedd dylunedig o'r ddeunawfed ganrif, gwyl gelf y chwedegau a darparu persbectif cyfoes megis bioamrwyiaeth ac ymatebion creadigol i'r safle.
Beth sydd yn eich aros?
Ar lawr cyntaf Tŷ Newton mae cyfres o ystafelloed arferai fod yn ystafelloedd gwely.
Yn awr yn safleoedd penodol ar gyfer arddangosfeydd sy'n deffro'ch chwilfrydedd ac edrych mewn fwy o ddyfnder ar hanes a bywyd ystad Dinefwr.
Castell Diwylliannol: Dinefwr a Naws y Chwedegau
Ein arddangosfa fwyaf newydd sy'n dathlu tair mlynedd yn y 1960au ble bu Dinefwr yn ganolfan fywiog ar gyfer celf fodern, cerddoriaeth, ffilm a theatr a hyrwyddwyd hyn oll gan y nawfed Arglwydd Dinefwr, Richard Rhys.
Arddangosfa sydd wedi'i churadu gan Dr Peter Wakelin ac yn rhannu hanesion cyfres o wyliau celf a ddaeth a naws y chwedegau i gefn gwlad gorllewin Cymru.
Dim ond 27 oedd Richard Rhys yn etifeddu'r ystad a dwyn y teitl Arglwydd Dinefwr; gyda'i wraig Lucy Rothenstein, gyda cefndir mewn theatr a hithau mewn celf gweledol fe aeth y ddau ati i greu cyfres o wyliau anhygoel.
Darganfyddwch sut cafodd y fenter gefnogaeth rhai o enwau mawr y cyfnod, gan gynnwys Richard Burton, Sir Geraint Evans, Alun Hoddinott, Emyr Humphreys, Cleo Laine, Ceri Richards, Sir Michael Tippett a Malcolm Williamson.
Er na gyflawnwyd yr uchelgais i gael canolfan gelfyddydol barhaol a theatr genedlaethol, am eiliad ddisglair, roedd Dinefwr yn gastell diwylliannol.
Yr Ystafell Ddarganfod: Hanes a bioamrywiaeth yn Ninefwr
Caiff hanes cyfoethog Dinefwr ei gynrychioli ar ffurf llinell amser, sy’n ymdroelli ar draws y waliau gan ddatgelu hanes y dirwedd hynafol hon.
Mae'n cynnwys darlun o'r Fonesig Cecil Rice, gan adlewyrchu ar yr effaith a gafodd ar gynllun y parcdir yn y ddeunawfed ganrif.
Mae'r arddangosfa wedi'i chreu gan artist lleol o Sir Gaerfyrddin, Julia Griffiths Jones a'r dylunydd Heidi Baker.
Yn ganolog i'r ystafell mae modelau ceramig o ffyngau sy'n adlewyrchu bioamrywiaeth yr ystad. Maent ar fenthyg gan Gymdeithas Ficrolegol Prydain gyda diolch i Ardd Fontaneg Genedolaethol Cymru.
Yr Ystafell Dirwedd
Fel rhan o'n rhaglen 'Tir Gwerthfawr' mae'r Ystafell Dirwedd yn datgelu pedwar llun olew pwysig a phrin, sy'n dyst i gyfoeth, statws a dyheadau'r ystad a'r teulu oedd yn berchen arni.
Wedi’u cwblhau gan artist anhysbys, does dim llawer o ddogfennaeth wedi dod i’r amlwg mewn cysylltiad â’r lluniau, ac rydym yn parhau i ymchwilio, ond credwn eu bod fwy na thebyg wedi’u comisiynu i ddathlu stiwardiaeth Griffith Rice, a oedd yn AS dros Sir Gâr rhwng 1701-10.
Dysgwch sut y gwnaeth y manylyn lleiaf yn y dadansoddiad o’r paent ddatgelu gwir oedran y gweithiau celf.
Archaeoleg y Cartref
O hoelen a weithiwyd â llaw neu damaid o bapur papuro a brintiwyd â llaw, i waith plastr addurnol ar y nenfydau addurnedig gwreiddiol, mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn datgelu llawr am ‘Archaeoleg y Cartref’.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys darnau a deunyddiau o blith casgliadau Dinefwr, gan gynnig cipolwg hynod ddiddorol ar y deunyddiau adeiladu hanesyddol a’r technegau addurno a ddefnyddiwyd yn Nhŷ Newton ers ei adeiladu yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg.
Fel rhan o’r arddangosfa hon, gellir gwylio ffilm fer sy’n sôn am dechnegau plastro treftadaeth, lle ceir cipolwg ar y crefftwaith, y technegau a’r sgiliau a ymgorfforir yng nghornisiau a nenfydau Tŷ Newton.
Celf gyfredol
Fel rhan o raglen gelf gyfredol Dinefwr ry' ni'n darparu platfform i unigolion creadigol ymateb i hanes hir y safle a'r ystad.
Edrychwch yn Nhŷ Newton am ddarnau o'r casgliad cyfredol gan y dylunydd Isabel Porch, gwehyddion Ainsley Hillard a Riitta Sinkkonen, seramegydd Hannah Walters a'r artist John Abel.
You may be interested in
Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Hanes Dinefwr
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Crwydrwch y parc yn Ninefwr
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.