Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i eistedd yng nghaffi dan do Tŷ Newton a mwynhewch amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer, cacennau a hufen iâ. Yn y maes parcio, mae’r caffi awyr agored “Rydych Chi Yma” yn lle cyfleus i gael diodydd a byrbrydau tecawê, cyn mynd am dro neu wylio Gwartheg Gwyn y Parc.
Mwynhewch ddetholiad o frechdanau, byrbrydau sawrus, pasteiod a rholiau selsig cynnes, cacennau, diodydd a hufen iâ yn yr hen ystafell filiards hanesyddol, y prif gaffi ar lawr gwaelod Tŷ Newton. Croesewir cŵn ufudd ar dennyn yn y caffi y tu mewn i’r Tŷ (mae prisiau mynediad yn berthnasol, am ddim i aelodau) .
Fel arall, eisteddwch yn yr ardd parterre ffurfiol y tu ôl i’r tŷ lle mae ceirw Dinefwr i’w gweld yn crwydro’r parc ceirw hanesyddol.
Caiff y coffi masnach deg ei brynu o ffynonellau moesegol a’i gyfuno’n arbennig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae wedi’i achredu gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (SRA) ac mae wedi ennill Gwobr Efydd ‘Food for Life Served Here’ gyda Chymdeithas y Pridd.
Mae ein caffi tecawê awyr agored newydd ar agor yn yr adeilad “Rydych Chi Yma” yn y maes parcio. Mae’n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, byrbrydau a hufen iâ. Cewch fwynhau diod neu fyrbryd cyn mynd am dro, neu gallwch dretio eich hun ar ôl dod yn ôl.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.
Porwch drwy’r siop llawn llyfrau ail law yn Nhŷ Newton, lle gallwch brynu trysor ail law o blith amrywiaeth eang o lyfrau a fydd at ddant pawb. Rydym yn croesawu rhoddion ar ffurf llyfrau ail law o ansawdd da. Felly, os ydych wrthi’n clirio eich silff lyfrau, siaradwch ag aelod o staff.
Bydd pob ceiniog yn mynd tuag at gynnal y lle arbennig hwn. Diolch.
Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
The Soil Association is a charitable organisation that works to transform the way we eat, farm, and care for our natural world.
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.