Skip to content

Diwrnodau allan i'r teulu yn Dinefwr

Bachgen yn chwarae yn Dinefwr
Chwarae gyda chŵn yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin, Cymru | © National Trust Images / Trevor ray Hart

Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Ninefwr, waeth beth yw’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd eang y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd ym Mhentref y Tylwyth Teg, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.

Yr Iard Dderw yn Dinefwr: Yn agor yn fuan

Yn agor: Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 2024

Ry’ ni’n trawsnewid y cwrt yn fan chwarae creadigol newydd – Yr Iard Dderw – lle i’r dychymyg grwydro.

Chwarae dŵr, rhedeg drwy’r guddfan gynfas, adeiladu twnnel, neu beth bynnag yr hoffech o glwydi traddodiadol yn Yr Iard Dderw. Porwch drwy’r llyfrau yn y siop lyfrau ail law sy’n arbennig i blant a phobl ifanc, cyn mwynhau eich moment ar y llwyfan a rhyfeddu at ein derwen ifanc – symbol o ddyfodol newydd ar gyfer y lle traddodiadol hwn.

Lle chwareus ble mae croeso i bawb.

Plant yn chwarae gyda dwr yn yr Iard Dderw yn Dinefwr, Sir Gar
Plant yn chwarae yn yr Iard Dderw, Dinefwr, Sir Gar | © National Trust

Pitchfork & Provision: ein gwesteion arbennig yn yr Iard Dderw

Noson Agoriadol, 2 Awst 2024. Ar agor yn ddyddiol 3-31 Awst 2024.

Mae Pitchfork & Provision, caffi lleol cyfarwydd yn ymuno â ni fis Awst yn Yr Iard Dderw i gynnig amrywiaeth o ddanteithion tymhorol. Yn lleol i Llandeilo, mae Pitchfork & Provision yn arbenigo mewn bwydydd lleol gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau posib.

Bydd prydau ysgafn, diodydd poeth ac oer a danteithion melys ar gael. Wrth edrych yn fwy manwl ar y fwydlen, efallai y sylwch fod rhywfaint o’r cynnyrch yn dod o Dinefwr, ffermydd Dolaucothi a Llanerchaeron, ry’ ni’n falch iawn o weld cynnyrch o lefydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y fwydlen.

Ar gyfer y noson agoriadol ar yr 2 Awst a’r dathliad diwedd yr ha far y 30 Awst bydd noson o fwyd da a cherddoriaeth fyw – ffordd hyfryd o fwynhau’r nosweithiau hafaidd.

Hwyl gwyliau haf

Law yn llaw a’r Iard Dderw newydd bydd holl hwyl arferol yr haf ar gael; gwisgo lan yn y tŷ, ymlacio’n chwarae’r gemau bwrdd, y posau a’r lliwio sydd ar wasgar o amgylch y tŷ. Chwiliwch am y ffigyrau LEGO (mae cost fychan i gymryd rhan), darganfod y ffynnon yn yr ardd – ac wrth gwrs – ceisio gweld y ceirw’n y parc.

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau haf Awst Anhygoel – cewch weld beth sydd wedi’i gynllunio yma

Ac wrth gwrs, mae 800 acer o barcir i’w fwynhau tu fas, perffaith ar gyfer rhedeg, neidio a chwarae. Chwilio am y Wartheg Gwyn Dinefwr, dringo i Gastell Dinefwr, a mwynhau diod poeth neu oer o’r caffi tecawe newydd yn y maes parcio.

Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu

I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:

· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor rhai rhannau newid yn dibynnu ar y tymor.

· Mae croeso i gŵn o gwmpas y rhan fwyaf o'r ystâd ac yn y tŷ a'r caffi. Darllenwch fwy am ymweld gyda’ch ffrind pedair coes yma.

· Gellir dod o hyd i’r toiledau yn y ganolfan ymwelwyr yn y maes parcio ac o fewn islawr Tŷ Newton. Mae'r toiledau anabl a’r cyfleusterau newid yn y ganolfan ymwelwyr yn y maes parcio.

· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).

· Os ydych chi’n ymweld â ni mewn cadair olwyn neu gyda chadair wthio, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i Dŷ Newton. Gellir gweld llwybrau hygyrch, gwastad o flaen Tŷ Newton, ond noder y gallai rhai llwybrau fod yn anaddas ac nid oes lifft y tu mewn i’r tŷ. Os oes angen cymorth arnoch chi, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar.

Teulu yn gwylio ceirw yn Dinefwr
Teulu yn gwylio ceirw yn Dinefwr | © National Trust Images/Chris Lacey

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o dŷ Newton
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

Close-up of buttercups in a wildflower meadow with woodland in the distance at Dinefwr, Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Ymwelwyr â chŵn yn Newton House
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Dinefwr gyda'ch ci 

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.