
Llwybr ‘Capability’ Brown yn Ninefwr
Cynlluniwyd y llwybr y byddwch yn ei ddilyn ar y daith hon gan Lancelot ‘Capability’ Brown pan ymwelodd â Dinefwr ym 1775. Yn ogystal â golygfeydd o’r parc a’r tŷ wedi’u fframio gan goed sbesimen, efallai y cewch gipolwg ar yr hyddod brith sy’n byw yma.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio ym Mharc Dinefwr, cyfeirnod grid: SN615224
Cam 1
O’r maes parcio dilynwch y rhodfa i fyny a heibio gatiau blaen Tŷ Newton. Ewch drwy’r gât fetel ar draws y rhodfa. I’r dde, yn ôl tuag at dref Llandeilo, fe welwch y parc allanol lle mae’r gwartheg Parc Gwyn yn pori am lawer o’r flwyddyn.
Cam 2
Dilynwch y rhodfa ac ewch drwy’r bwlch yn y ffens bren, ac yna trowch i’r chwith. Yn hytrach na dilyn yr arwydd i’r tŷ iâ, ewch yn eich blaenau a thrwy’r gât i mewn i’r parc ceirw. Dilynwch y llwybr brown drwy’r coed, gan aros am eiliad lle mae’r coed cilio i edmygu’r gwahanol olygfeydd o’r parc.
Cam 3
Dilynwch y llwybr drwy’r coed i lawr at bwll y felin. Cadwch olwg am yr haid o hyddod brith sy’n crwydro’r parc.
Cam 4
Ewch drwy’r gât fetel, troi a chroesi’r bont rhwng pwll y felin a’r tŷ pwmpio islaw. Defnyddiwyd yr olwyn ddŵr yn y tŷ pwmpio i anfon dŵr yfed o ffynnon ar yr gorlifdir i fyny i Dŷ Newton.
Cam 5
Dilynwch y trac o gwmpas pwll y felin ac i Faes y Castell.
Cam 6
Roedd y llwybr a awgrymwyd gan ‘Capability’ Brown yn mynd ar hyd y grib uwchben y cae, gan basio’r castell. Gallwch wneud gwyriad yma i ymweld â’r castell ac edmygu’r golygfeydd dros Ddyffryn Tywi. Fel arall, dilynwch y trac i’r chwith, drwy ddwy gât, ac yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio ym Mharc Dinefwr, cyfeirnod grid: SN615224
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Trwyn Ragwen
Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.

Llwybr bywyd gwyllt Parc Dinefwr
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
Cysylltwch
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Ein partneriaid

We’ve partnered with Cotswold Outdoor to help everyone make the most of their time outdoors in the places we care for.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydrwch y parc yn Ninefwr
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Cotswold Outdoor: ein hunig bartner cerdded
Dysgwch ragor am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein hunig bartner cerdded. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)