O ddydd i ddydd yn y gerddi
Er bod adfer a datblygu'r gerddi yn dasg enfawr, mae cynnal a chadw 88 erw o diroedd a gerddi hefyd yn ymdrech helaeth a pharhaus. Mae ein tîm o arddwyr profiadol a gwirfoddolwyr y gerddi yn torri gwair, ymylu, chwynnu, tynnu pennau marw, tocio, sgubo, chwythu, sgimio pyllau, plannu, dyfrio, bwydo, lluosogi, casglu hadau, potio, clymu, cynnal a chadw pyllau, ffensio, clirio draeniau, golchi potiau, labelu, diweddaru cronfeydd data planhigion a mwy.
Mae ein hymdrechion mwy tymhorol yn cynnwys torri cyfanswm o 1350m o wrychoedd, rheoli 15 erw o ddolydd, stancio a hyfforddi basgedi cyll, plannu coed, tocio ffrwythau, rhosod a wisteria yn dymhorol, cynefino bylbiau mewn glaswellt a’r dasg anferthol o newid y gwelyau sy'n cynnwys codi'r cynllun llawn blaenorol a phlannu dros 20,000 o fylbiau a phlanhigion ddwywaith y flwyddyn.
Trwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cynnal arolygon ar draws y gerddi i helpu i lywio ein gwaith, gan gynnwys arolygon madfallod dŵr, arolygon ffyngau glaswelltir, archwiliadau coed blynyddol ac arolygon infertebratau. Rydyn ni hefyd yn treulio amser yn cynllunio datblygiadau a phrosiectau gardd yn ofalus gan gynnwys ein holl gynlluniau plannu ar gyfer y flwyddyn.